{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247212.json"},"data":{"type":"petition","id":247212,"attributes":{"action":"Dylid gweithredu hawl i ddewis i gleifion y GIG yng Nghymru sydd ar restrau aros sy'n fwy na blwyddyn","background":"Rydw i wedi bod ar restr aros y GIG yng Nghymru ers mis Mawrth 2026. Dywedwyd wrthyf yn ddiweddar bod y rhestr aros am asesiad yr ydw i arni yn hwy nag 8 mlynedd. Yn Lloegr, mae gan gleifion hawl gyfreithiol i ddewis unrhyw ddarparwr y GIG pan fydd eu harhosiad lleol yn rhy hir. Nid oes gan Gymru ddewis cyffelyb. Mae'r ddeiseb hon yn gofyn am Hawl i Ddewis unwaith y bydd claf wedi aros am ragor na blwyddyn, a hynny fel rhwyd ddiogelwch, nid yn lle gwasanaethau lleol. Ni ddylai neb orfod aros cyhyd am asesiad na thriniaeth yng Nghymru.","additional_details":"Mae’r Hawl i Ddewis yn Lloegr (Rheoliad 39, Rheoliadau Bwrdd Comisiynu'r GIG 2012) wedi gweithredu ers dros 10 mlynedd ar draws pob gwasanaeth dewisol, heb i'r system fethu. Yng Nghymru, dim ond 64.2% o lwybrau a gyrhaeddodd y safon 26 wythnos (Awst 2026). Mae ychydig o dan 5,100 o lwybrau wedi aros dros 2 flynedd. Mae sbardun 1 flwyddyn yn geidwadol, ac ymhell uwchlaw y safon 18 wythnos yn Lloegr. Dim ond ar gyfer cleifion sydd eisoes wedi'u gadael ar ôl y mae'n cael ei weithredu. Mae hyn yn ategu, nid yn disodli, comisiynu lleol. Drwy roi opsiynau i gleifion, mae'n helpu i'w tynnu oddi ar restrau aros, ac yn rhyddhau capasiti i'r rhai sy'n dal i aros. Gallai gweithredu’r cam hwn fynd rhagddo drwy offeryn statudol o dan Ddeddf y GIG (Cymru) 2006.\r\n","state":"open","signature_count":6,"paper_signature_count":0,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-11-24T08:12:02.519Z","updated_at":"2026-11-25T20:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-11-25T16:11:14.655Z","closed_at":"2027-05-25T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-11-24T09:58:10.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Thomas Rees","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}],"signatures_by_country":[{"name":"Cymru","code":"GB-WLS","signature_count":6}],"signatures_by_constituency":[{"id":"W09000048","name":"Afan Ogwr Rhondda","signature_count":2},{"id":"W09000051","name":"Brycheiniog Tawe Nedd","signature_count":1},{"id":"W09000059","name":"Gŵyr Abertawe","signature_count":2},{"id":"W09000060","name":"Pen-y-bont Bro Morgannwg","signature_count":1}],"signatures_by_region":[]}}}