Deiseb a gwblhawyd Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

​Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi torri’r cyllid blynyddol o £12,000 y mae’n ei ddarparu ar gyfer y gwaith sy’n mynd rhagddo o fonitro Gwylogod Ynys Sgomer. Mae’r astudiaeth hon yn un hynod o bwysig sy’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i fywyd adar môr a’r hyn sy’n effeithio ar eu poblogaethau. Nid yn unig yw dod â set ddata sydd wedi cael ei chasglu cyhyd (ac sydd, felly, yn werthfawr) i ben yn drueni, ond ni allai’r toriad fod wedi dod ar adeg waeth, o ystyried effaith enfawr y stormydd diweddar ar boblogaethau adar môr (gyda 25,000 o farwolaethau ar hyn o bryd, a disgwylir i’r rhif hwnnw gynyddu). Mae hwn yn benderfyniad gwael iawn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a hoffem ei weld yn cael ei ddiwygio.

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,687 llofnod

Dangos ar fap

5,000