Creu deiseb
Deisebau yw un o’r ffyrdd mwyaf uniongyrchol o awgrymu sut y gellir newid rhywbeth. Mae deisebau’n gallu:
- codi ymwybyddiaeth o fater;
- arwain at newid polisi Llywodraeth Cymru neu ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol;
- cynnig neu ddylanwadu ar gyfraith newydd;
- annog un o bwyllgorau’r Senedd i gynnal ymchwiliad;
- arwain at ddadl yn y Senedd neu ddylanwadu ar ddadl a drefnwyd eisoes;
- annog pwyllgorau neu Aelodau unigol o’r Senedd i gymryd camau pellach eu hunain, er enghraifft drwy ofyn cwestiynau.
Gallwch gyflwyno deiseb drwy ddefnyddio ein system ddeisebau ar-lein, ar bapur, neu gyfuniad o’r ddwy.
Nid yw’r Pwyllgor Deisebau yn derbyn deisebau o wefannau eraill.
Os ydych chi’n ystyried casglu llofnodion ar bapur, dylech gysylltu â ni ymlaen llaw i gael cyngor. Gallwn ddarparu templed hefyd.
Sut mae deisebau’n gweithio
- Rydych chi’n creu deiseb. Dim ond pobl neu sefydliadau sydd â chyfeiriad yng Nghymru sy’n gallu creu deiseb.
- Mae angen i 2 berson gefnogi’ch deiseb. Byddwn ni’n dweud wrthych sut i wneud hyn ar ôl i chi greu eich deiseb.
- Rydym ni’n gwirio’ch deiseb, yna’n ei chyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod (gweler isod).
- Dim ond unwaith y gall pobl lofnodi deiseb. Os byddant yn llofnodi’r ddeiseb ar-lein, anfonir e-bost atynt i wirio eu llofnod. Ni all pobl lofnodi deiseb ar-lein a deiseb bapur.
- Mae’r Pwyllgor Deisebau yn adolygu’r holl ddeisebau sy’n casglu mwy na 250 llofnod. Bydd y Pwyllgor yn penderfynu beth i’w wneud er mwyn helpu i symud ymlaen â’r ddeiseb. Gall hyn gynnwys trafod y mater a phwyso ar Lywodraeth Cymru ac eraill i weithredu.
- Os bydd eich deiseb yn casglu dros 10,000 llofnod, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried gofyn am ddadl yn Siambr y Senedd. Bydd y Pwyllgor yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys y materion a godir yn y ddeiseb, pa mor ddybryd yw’r sefyllfa a chyfran y llofnodion sy’n dod o Gymru.
Y Pwyllgor Deisebau
Fel rhan o’r broses o drafod eich deiseb, mae’r Pwyllgor Deisebau yn gallu:
- ysgrifennu atoch i gael rhagor o wybodaeth;
- eich gwahodd i siarad â’r Pwyllgor am y ddeiseb;
- gofyn am dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru neu bobl neu sefydliadau perthnasol eraill;
- pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu;
- tynnu sylw un o bwyllgorau eraill y Senedd at y ddeiseb;
- cynnig cyflwyno’r ddeiseb ar gyfer dadl;
- cynnal ymchwiliad manwl a chyhoeddi adroddiad ar y pwnc.
Safonau ar gyfer deisebau
Gallwch gyflwyno deiseb ar unrhyw fater mae’r Senedd neu Lywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.
Rhaid i ddeisebau alw am gamau penodol gan y Senedd neu Lywodraeth Cymru.
Gall deisebau anghytuno â Llywodraeth Cymru a gallant ofyn iddi newid ei pholisïau. Gall deisebau fod yn feirniadol o’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.
Rydym yn gwrthod deisebau nad ydynt yn bodloni’r rheolau. Os byddwn ni’n gwrthod eich deiseb, byddwn ni’n dweud wrthych pam. Os yw’n bosibl, byddwn ni’n awgrymu ffyrdd eraill y gallech godi’r mater.
Bydd yn rhaid i ni wrthod eich deiseb:
- os yw’n galw am yr un cam gweithredu â deiseb sydd eisoes ar agor, neu un a gaewyd gan y Pwyllgor Deisebau lai na blwyddyn ynghynt;
- os nad yw’n gofyn am gamau clir gan y Senedd neu gan Lywodraeth Cymru;
-
os yw’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano;
Mae hynny’n cynnwys: rhywbeth y mae eich cyngor lleol yn gyfrifol amdano (gan gynnwys penderfyniadau cynllunio); rhywbeth y mae Llywodraeth y DU neu Senedd y DU yn gyfrifol amdano; a rhywbeth y mae sefydliad annibynnol wedi’i wneud.
- os yw’n cynnwys iaith sy’n peri tramgwydd, sy’n eithafol neu sy’n herfeiddiol. Mae hyn yn cynnwys rhegfeydd a geiriau sarhaus amlwg, ac unrhyw iaith sy’n dramgwyddol ym marn person rhesymol;
- os yw’n cynnwys datganiadau ffug neu ddifrïol posibl;
- os yw’n cyfeirio at achos sy’n weithredol yn llysoedd y DU;
- os yw’n cynnwys gwybodaeth a waherddir rhag cael ei chyhoeddi gan orchymyn llys neu gorff neu berson sydd â phŵer tebyg;
- os yw’n cyhuddo unigolyn neu sefydliad y gellir ei adnabod o drosedd;
- os yw’n cynnwys deunydd a allai fod yn gyfrinachol neu’n sensitif yn fasnachol;
- os gallai achosi trallod neu golled bersonol;
- os yw’n enwi swyddogion unigol cyrff cyhoeddus, oni bai eu bod yn uwch-reolwyr;
- os yw’n cynnwys enwau aelodau o deuluoedd cynrychiolwyr etholedig neu swyddogion cyrff cyhoeddus;
- os yw’n hysbyseb, yn sbam, neu’n hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth penodol;
- os yw’n nonsens neu’n jôc;
-
os yw’n ymwneud â mater nad yw’n briodol ymdrin ag ef mewn deiseb
Mae hynny’n cynnwys: gohebiaeth am fater personol a deisebau sy’n gofyn am i rywun gael swydd, colli ei swydd neu ymddiswyddo, neu sy’n galw am bleidlais o ddiffyg hyder.
Byddwn yn cyhoeddi testun y deisebau rydym ni’n eu gwrthod, ar yr amod nad ydynt:
- yn ddifenwol, yn enllibus neu’n anghyfreithlon mewn ffordd arall;
- yn ymwneud ag achos sy’n mynd rhagddo yn llysoedd y DU neu am rywbeth y mae llys wedi cyhoeddi gwaharddeb yn ei gylch;
- yn sarhaus neu’n eithafol;
- yn gyfrinachol neu’n debygol o achosi trallod personol; neu
- yn jôc, yn hysbyseb neu’n nonsens.
Mae’r rheolau llawn ynghylch y broses ddeisebau ar gael yma.
Os oes gennych ragor o gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu.