Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad
Deiseb a gwblhawyd Ymgyrch i ddiogelu YSBYTY ABERTEIFI
Rydym yn arwyddo'r ddeiseb hon i ddangos ein cefnogaeth i GYNGOR TREF ABERTEIFI a
CHYFEILLION YSBYTY ABERTEIFI A'R GYMUNED sy'n galw ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda i:
(a) gwrthdroi'r penderfyniad diweddar i gau gwelyau cleifion mewnol yn Ysbyty Cymunedol Aberteifi;
(b) rhoi amserlen glir ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd yn Aberteifi a'r cylch; ac
(c) gweithio tuag at gael Ysbyty newydd, gyda gwelyau, yn Aberteifi, , cyn gynted â phosibl.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon