Deiseb a gwblhawyd Parthed Canslo pob Llawdriniaeth Orthopedig Ddewisol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda dros y Gaeaf 2013/14
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, o'r farn bod canslo pob llawdriniaeth orthopedig, ar wahân i lawdriniaethau trawma, dros fisoedd y gaeaf 2013/14, yn tanseilio hawliau dynol cleifion ac yn gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd ag anableddau. Mynnwn fod y penderfyniad hwn yn cael ei ailystyried ar unwaith. Dylid gwneud pob penderfyniad ynghylch blaenoriaethu anghenion cleifion gan glinigwyr yn hytrach na chan weinyddwyr sy'n gwneud penderfyniadau ar sail cyfyngiadau ariannol.
Mae achosion brys ddifrifol, ar wahân i achosion trawma, eisoes ar y rhestr aros, lle bydd pobl mewn perygl o golli symudedd ac o ganlyniad i hynny, o golli eu bywoliaeth heb lawdriniaeth.
Mewn hinsawdd gwleidyddol ble y dylid gwrando ar gleifion, yn yr achos hwn, nid oes neb wedi rhoi gwybodaeth i'r cleifion heb sôn am ymgynghori â hwy ar y mater. Ymddengys bod penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gwbl groes i'r egwyddor hon.
Nid ydym yn deall ychwaith pam mae cleifion orthopedig yn cael eu targedu. Ymddengys bod hwn yn ddull gor-syml o fynd i'r afael â phroblemau ariannol. Mae penderfyniadau o'r fath nid yn unig yn effeithio ar gleifion, ond maent yn effeithio ar staff arbenigol a hyfforddeion sy'n cael eu rhwystro rhag gwneud y gwaith y maent yn dymuno ei wneud ac y telir iddynt i'w wneud hefyd.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad hwn.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon