Deiseb a gwblhawyd Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu
Mae adolygiadau achos gwirioneddol wedi dangos mai awdurdodau, nid dewis addysgu plant gartref, sydd wedi gwneud cam â phlant. Ymrwymodd y llywodraeth i gyflawni hawliau’r plentyn yn 2004, a nododd bryd hynny y bydd yn ymgynghori â phlant cyn newid pethau sy’n effeithio ar blant. Nid yw’r llywodraeth yn ymgynghori â’n plant, sydd eisoes wedi dangos mewn ymgynghoriad gwahanol y llynedd eu bod yn gwrthwynebu system fonitro. Rydym ni, felly, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon