Deiseb a gwblhawyd 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i strategaeth ar ddementia sy’n gwella bywydau pobl sy’n byw â dementia yng Nghymru.

Amcangyfrifir bod yna 45,000 o bobl yn byw â dementia yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae llai na 50% ohonynt wedi derbyn diagnosis ffurfiol.  Mae derbyn diagnosis o ddementia’n grymuso pobl i wneud penderfyniadau am y gofal a’r gefnogaeth y maent yn eu derbyn; mae’n agor y drws i gael at wasanaethau a, lle y bo angen, meddyginiaeth.

Fodd bynnag, mae’n debygol iawn bod hyd yn oed y rheiny sydd wedi derbyn diagnosis heb dderbyn y wybodaeth a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen er mwyn byw’n dda â dementia.  Ni dderbyniodd 1 o bob 10 o bobl â dementia yng Nghymru unrhyw gefnogaeth o gwbl yn y flwyddyn gyntaf ar ôl eu diagnosis, gan adael iddynt ymdopi â’u diagnosis ar eu pen eu hunain. 

Mae pobl sy’n byw â dementia yng Nghymru yn llai tebygol o dderbyn diagnosis, ac maent yn llai tebygol o gael mynediad at gymorth ar ôl diagnosis na’r rheiny sy’n byw yng ngweddill y Deyrnas Unedig.  Mae’n rhaid i hyn newid.

Mae arnom eisiau i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ar ddementia i Gymru, strategaeth sy’n dangos ymrwymiad i wella cyfraddau diagnosis ac sy’n sicrhau’r mynediad at wasanaethau lleol a’r ansawdd gofal y mae pobl sy’n byw â dementia’n ei haeddu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,861 llofnod

Dangos ar fap

5,000