Deiseb a gwblhawyd Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Cylchfan Ewenni, Merthyr Mawr, Broadlands a Threlales yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr.

Mae llawer o ddamweiniau yn digwydd ar yr A48 ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Lladdwyd dau berson dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae gormod o fân ddamweiniau yn digwydd i geir, cerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r ffordd hon, yn ogystal â damweiniau a fu bron â digwydd.

Er hyn, mae'r A48 o Island Farm yn parhau i fod yn ffordd lle gellir teithio ar gyflymder o 60 mya, ac mae llwybr beicio Broadlands yn gorffen yn Newbridge Fields.

 

Rydym yn galw am:

 

 - ostwng y terfyn cyflymder o 60 mya i 40 mya ar unwaith;

 

 - man croesi diogel ar yr A48 o warchodfa natur Newbridge Fields/Craig-y-Parcau ar lwybr Merthyr Mawr;

 

 - llwybr cerdded/beicio estynedig i alluogi ein plant i gerdded i'r ysgol yn ddiogel;

 

 - gwaith ymchwil i opsiynau i atal pobl rhag anwybyddu'r cyfarwyddyd i beidio â throi i'r dde ar gyffyrdd Merthyr Mawr, er enghraifft ynys ganolog, neu’r posibilrwydd o ddarparu cylchfan er mwyn galluogi cerbydau i droi yn ddiogel.

 

Ymunwch â'r ymgyrch heddiw. Faint o deuluoedd eraill fydd yn gorfod gweld eu bywydau'n cael eu dinistrio cyn y bydd camau'n cael eu cymryd? 

Rhagor o fanylion

​Nid oes unrhyw fannau croesi diogel o'r llwybrau cerdded cyhoeddus sy'n cysylltu gwarchodfa natur Newbridge Fields/Craig-y-Parcau â chefn Broadlands ac ymlaen i lwybr dynodedig Merthyr Mawr.

Disgwylir i blant Broadlands gerdded ar ffordd lle gellir teithio ar gyflymder o 60 milltir yr awr er mwyn cyrraedd Ysgol Brynteg, neu groesi'r ffordd honno, gan beryglu eu bywydau bob dydd.

 

Nid yw rhai gyrwyr yn talu sylw i'r arwyddion sy'n eu gorchymyn i beidio â throi i'r dde yng nghyffyrdd Merthyr Mawr, ac mae hyn yn creu peryglon ychwanegol i ddefnyddwyr eraill.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cysylltu'r broses o gyflwyno gwelliannau â’r datblygiad hir-ddisgwyliedig yn Island Farm.  

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

997 llofnod

Dangos ar fap

5,000