Deiseb a gwblhawyd Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn Sicrhau Llais Clir, Strategol ac Atebol i Gymru yn y Trafodaethau Parhaus

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i greu Adran Ewrop fel mater o frys, â'r dasg o ddeall a datblygu strategaeth ar gyfer ymgysylltiad parhaus Cymru â'r UE a'n perthynas â phartneriaid yn Ewrop yn y dyfodol. 

Ers y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae ymateb Llywodraeth y DU wedi bod yn araf ac yn amwys - cafodd uned o fewn swyddfa'r Cabinet ar gyfer gadael yr UE ei gynnig yn wreiddiol ac yna'i ddisodli gan swydd newydd, sef Gweinidog dros adael yr UE, rôl sy'n ymddangos i fod â diffyg amcanion clir, ac sy'n cael ei arwain gan AS sydd wedi treulio'r 20 mlynedd diwethaf ar y meinciau cefn. 

Yng Nghymru, mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod yn dawel a dweud y lleiaf, ac mae'n bryd nawr bod Cymru ei hun yn cymryd camau fel bod y trafodaethau rhwng y DU a gweddill yr UE yn esmwyth a bod gan Gymru - buddiolwr net o aelodaeth â'r UE - rôl bendant wrth lunio ein perthynas gyda'r UE yn y dyfodol. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae Lloegr a'r Alban yn dominyddu'r holl drafodaethau gyda'r UE ehangach. Heb gynllun gweithredu strategol penodol gan Lywodraeth Cymru, mae'r sefyllfa hon yn debygol o barhau.

Dylai fod gan yr Adran hon Ysgrifennydd  Cabinet cryf sydd â phrofiad o weithio yn Ewrop ac sy'n gallu gweithio ar draws yr holl adrannau. Dylai'r Ysgrifennydd gael cefnogaeth gan bwyllgor trawsbleidiol i graffu ar bob maes ymgysylltu presennol ac i helpu i lunio ein perthynas â'r UE yn y dyfodol. Dylai'r pwyllgor hwnnw, yn ei dro, gael cyngor gan grŵp o gynghorwyr arbenigol allanol o'r sectorau cyfreithiol, economaidd, busnes, amaethyddol, diwylliannol ac academaidd.

Byddai Adran Ewrop o fewn Llywodraeth Cymru yn sicrhau llais clir, strategol ac atebol i Gymru yn y trafodaethau parhaus. Rydym hefyd angen llais cryf yn Ewrop ar ôl gadael yr UE i sicrhau ein bod yn parhau i elwa a chyfrannu at y meysydd yr ydym eisoes yn cymryd rhan ynddynt ac yn datblygu perthynas gyda'r UE yn y sectorau nad ydym yn hyn o bryd yn ymwneud yn llawn â hwy.  

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

22 llofnod

Dangos ar fap

5,000