Deiseb a gwblhawyd Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog
Nes y bydd y Gweinidog Iechyd wedi cael cyfle i ystyried argymhellion yr Athro Marcus Longley yn ei adroddiad ar safon y gwasanaeth iechyd yng nghefn gwlad Cymru - adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweindog ei hun yn Ionawr 2014 - yna rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddwyn perswâd ar Lywodraeth Lafur Cymru i ohirio trafod Cynllun Busnes Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n argymell israddio Ysbyty Coffa Ffestiniog i ddim byd mwy na ‘Canolfan Goffa’.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon