Deiseb a gwblhawyd Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach
Rydym o'r farn bod coed hynafol a choed treftadaeth Cymru yn rhan hanfodol ac unigryw o amgylchedd a threftadaeth y genedl.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i'w diogelu ymhellach, er enghraifft, drwy:
- roi dyletswydd ar yr Un Corff Amgylcheddol newydd i hyrwyddo cadwraeth coed o'r fath drwy roi cyngor a chymorth i'w perchenogion, gan gynnwys cymorth grant lle bo'n angenrheidiol;
- diwygio'r ddeddfwriaeth Gorchymyn Cadw Coed bresennol i'w gwneud yn addas i'r diben wrth ddiogelu coed hynafol a threftadaeth, a hynny yn unol â chynigion Coed Cadw (the Woodland Trust);
- cynnwys cronfa ddata o'r coed a gofnodwyd ac a nodwyd yn ddilys gan y Prosiect Helfa Coed Hynafol fel casgliad o ddata i'w gadw gan unrhyw olynydd i Gynllun Gofodol Cymru, gan gydnabod y rhain fel 'Coed o Ddiddordeb Arbennig' a rhoi'r wybodaeth hon i awdurdodau cynllunio lleol fel y gellir ei chynnwys yn eu systemau gwybodaeth ddaearyddol, er gwybodaeth.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon