Deiseb a gwblhawyd Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd
Mae SWAT (Tîm Gweithredu i Achub Ysbyty Llwynhelyg) wedi brwydro i gadw gwasanaethau gofal iechyd eilaidd diogel, effeithiol a hygyrch i bobl Sir Benfro ers 2005.
Ar ran SWAT, galwaf ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynlluniau ar gyfer darparu Gofal Iechyd Eilaidd, y mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal arnynt ar hyn o bryd yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, yn cynnal y lefel bresennol o wasanaethau sydd ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg. Nid yw’r 14,000 o bobl a lofnododd y deisebau a ddosbarthwyd i’ch swyddfa gan SWAT yn cytuno â’r opsiwn a ffefrir, sef bod Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn canoli’r rhan fwyaf o wasanaethau cleifion mewnol yn safle Glangwili. Mae’n eithaf clir i bobl Sir Benfro a thu hwnt sydd wedi llofnodi’r deisebau hyn, os oes yn rhaid canoli gwasanaethau, mai Ysbyty Llwynhelyg yw’r safle y dylid ei ffafrio. Byddai hyn yn sicrhau darparu gwasanaeth gofal iechyd eilaidd teg, hygyrch, diogel a chynaliadwy i ardal gyfan Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda tra byddai canoli gwasanaethau yn safle Glangwili yn rhoi pobl Sir Benfro o dan anfantais ddifrifol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon