Deiseb a gwblhawyd Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip

​Rydym ni, pobl Llanelli, y dref â’r boblogaeth fwyaf yn ardal Hywel Dda, yn mynnu bod Ysbyty Tywysog Philip yn cael ei adfer yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth cwbl weithredol, a bod llawfeddygaeth ddewisol fawr yn dychwelyd yno, gan gynnwys llawfeddygaeth gastroberfeddol, fasgwlaidd, ac ym meysydd wroleg, gynecoleg a thrawma. Byddai hynny wedi’i gefnogi gan y 5 gwely Uned Therapi Dwys gwreiddiol, a fyddai wedi’u staffio’n llawn, ac a fyddai’n cefnogi Adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi’i staffio’n llawn, y byddai arbenigwyr ymgynghorol yn ei harwain, gan ddarparu cymorth i’r meddygon.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

24,000 llofnod

Dangos ar fap

5,000