Deiseb a gwblhawyd Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ymgyrch ddiogelwch ‘addysg gyhoeddus’ flynyddol i addysgu holl ddefnyddwyr y ffordd sut i fynd heibio i geffylau a marchogwyr yn ddiogel, ac sy’n tynnu sylw at y peryglon / canlyniadau o beidio â gwneud hynny.

Rydym yn ymwybodol o ddeiseb yn y DU gyfan sy’n ymgyrchu dros lunio cyfraith ar basio ceffylau ar y ffordd yn llydan ac araf (https://www.change.org/p/uk-govt-make-it-law-to-pass-by-a-horse-wide-and-slow-and-abide-by-our-hand-signals) ac yn ei chefnogi, ond byddai’n well gennym weld addysg a dulliau atal yn hytrach na gweld erlyniadau yn dilyn digwyddiad difrifol neu angheuol.

Mae gan Lywodraeth Cymru y cyfle i fanteisio ar y deunyddiau a’r wybodaeth sydd eisoes ar gael yn sgîl ymgyrchoedd presennol fel: ‘Dead Slow’, sef ymgyrch diogelwch ar y ffordd Cymdeithas Ceffylau Prydain, (http://www.bhs.org.uk/safety-and-accidents/dead-slow ), tra bydd yn pwysleisio materion penodol sy’n wynebu defnyddwyr y ffordd yng Nghymru. Mae’r materion hyn yn cynnwys y cysylltiadau agos rhwng cymunedau trefol a chymunedau gwledig yng Nghymru, a phoblogrwydd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid. Mewn cymunedau mwy trefol (e.e. yr ardal gymudo o amgylch Caerdydd), mae swm sylweddol o draffig sy’n defnyddio ffyrdd gwledig, naill ai fel llwybr byr neu fel prif lwybr mynediad. Mewn rhannau eraill o Gymru (e.e. Caerfyrddin a Sir Benfro) ceir mewnlifiad blynyddol o ymwelwyr nad oes ganddynt lawer o brofiad o weld ceffylau ar y ffyrdd.

Y cyfan a ofynnwn yw bod gyrwyr yn dynodi marchogwyr fel defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed, a bod yn fwy ystyriol wrth fynd heibio i geffylau. Rydym yn teimlo mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy arweiniad Llywodraeth Cymru, yn unol â’u hymrwymiad i ‘Weithio gyda chynrychiolwyr o’r gymuned marchogaeth i ddeall eu pryderon ynghylch diogelwch y ffyrdd a sut i hwyluso ymgysylltiad â phartneriaid eraill.’ (Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2013)).

Rhagor o fanylion

​Mae Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) yn amcangyfrif bod y diwydiant ceffylau o werth economaidd o £7 biliwn, a’i fod yn cyflogi 220,000 - 270,000 o bobl. Mae hyn, ochr yn ochr â’r manteision iechyd a lles sy’n gysylltiedig â marchogaeth ceffylau yn golygu ei fod yn rhan bwysig o fywyd Cymru. Ond, yn gynyddol, teimlir nad yw llais marchogwyr yn cael ei glywed.

Byddai llawer o farchogwyr yn dewis peidio â defnyddio priffyrdd cyhoeddus, ond, gan fod faint o lwybrau ceffylau hygyrch sydd ar gael yn amrywio ledled Cymru, nid oes fawr o ddewis ganddynt yn aml iawn.

Mae Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2013) yn cydnabod bod ceffylau a’u marchogwyr (yn ogystal â gyrwyr cerbydau ceffylau) yn agored i niwed ar y rhwydwaith ffyrdd, ac y gall gwrthdrawiad rhwng ceffyl a cherbyd arwain at ganlyniadau sy’n bygwth bywyd ar gyfer y ceffyl, y marchog a phobl mewn ceir a cherbydau eraill. Mae hefyd yn datgan bod yna dystiolaeth sy’n awgrymu nad oes cofnod manwl o nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd sy’n ymwneud â cheffylau.

Wrth i nifer y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu mewn lleoliadau gwledig / lled-wledig gynyddu, gwelir cynnydd yn swm y traffig ar ffyrdd gwledig, sy’n cael eu defnyddio’n aml gan beiriannau fferm, ceffylau a marchogion. Mae llawer o yrwyr, newydd a phrofiadol, yn aml nad ydynt yn gwybod am y peryglon posibl o yrru’n gyflym ar y ffyrdd hyn, ac nid yw llawer yn gwybod sut i basio ceffylau yn ddiogel. Nid yw’r ffaith bod y terfyn cyflymder cyfreithiol ar y ffyrdd hyn yn 60 milltir yr awr, yn golygu ei bod yn ddiogel i yrru ar y cyflymder hwnnw.

Ar ben hynny, mae tystiolaeth gan Gymdeithas Ceffylau Prydain (http://www.bhs.org.uk/our-charity/press-centre/news/jan-to-jun-2016/riding-and-road-safety-campaign ) sy’n dangos bod cynnydd o ran y digwyddiadau sy’n ymwneud â cheffylau, marchogion a cherbydau modur ar y ffordd ym mis Mehefin. Er bod y rhesymau dros y cynnydd hwn yn parhau’n aneglur, mae’n bosibl eu bod yn ymwneud â gyrwyr ar eu gwyliau ar ffyrdd anghyfarwydd mewn amgylchiadau anghyfarwydd.

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,755 llofnod

Dangos ar fap

5,000