Deiseb a gwblhawyd Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl [ifanc] anabl yn cael yr hawl i drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch pan fo’i hangen heb yr angen i gynllunio cymorth o leiaf 24 awr ymlaen llaw. Bydd hyn yn ein galluogi i fod yn annibynnol, chwilio am swydd, teithio i’r gwaith a chwrdd â ffrindiau ar fyr rybudd. Mae Llysgenhadon Whizz-Kidz hefyd yn ymgyrchu i sicrhau hyfforddiant hanfodol mewn ymwybyddiaeth o anabledd a chymorth ym maes anabledd, ar gyfer gyrwyr tacsis a bysiau yn ogystal â staff ar drenau.

Rhagor o fanylion

​Mae pobl ifanc yng Nghlwb Llysgenhadon Caerdydd wedi gweithio’n galed i ymgyrchu i wella trafnidiaeth gyhoeddus. Mae pob un ohonynt wedi cael anhawster gyda thacsis, bysiau a threnau dros y blynyddoedd ac mae eu hannibyniaeth yn cael ei gyfaddawdu am nad ydynt yn gallu teithio yn ôl yr angen. Er eu bod yn cydnabod bod gwelliannau wedi’u gwneud, mae llawer o waith i’w wneud o hyd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

22 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 31 Ionawr 2018

Gwyliwch y ddeiseb ‘Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2018

Busnes arall y Senedd

Adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau

Cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau ac yn dilyn hynny fe gynhaliwyd dadl arno yn y Cyfarfod Llawn: http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld11222/cr-ld11222-w.pdf

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 24 Ionawr 2018: http://www.assembly.wales/laid%20documents/gen-ld11381/gen-ld11381-w.pdf