Deiseb a gwblhawyd Cludiant am Ddim ar y Trenau i Ddisgyblion Ysgol gyda Threnau Arriva Cymru
Yma yn y DU mae gennym hawl i addysg am ddim, felly oni ddylem gael cludiant diogel, am ddim yn ôl ac ymlaen i'r ysgol? Yr ateb i hyn yw 'dylem'. Am nifer o flynyddoedd mae Trenau Arriva Cymru wedi bod yn darparu cludiant am ddim ar y trenau i ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci, ac mae hyn yn fantais enfawr i'r rhai sy'n byw y tu allan i'r dalgylch. Fodd bynnag, mae hyn wedi newid yn ddiweddar ac maent bellach wedi galw ar bob disgybl i brynu tocyn trên i fynd yn ôl ac ymlaen i'r ysgol ac mae prisiau'r rhain yn amrywio rhwng £19.95 a £32.90 fesul tymor ysgol. Gall hyn fod yn gostus iawn i rai rhieni sydd â mwy nag 1 plentyn, ac nid yw'r ysgol yn gallu helpu rhieni gyda'r arian hwn oherwydd bod y tocynnau yn cael eu darparu drwy gwmni Trenau Arriva Cymru. Mae Trenau Arriva wedi dweud mai diogelwch yw'r rheswm am hyn, ond mae'r plant sydd â'r tocynnau trên dynodedig o flaen rhwystr metal "amddiffynnol" yn agosach at ymyl y platfform, a'r plant nad oes ganddynt docynnau yn y man caeedig bach o fewn y rhwystr hwn, gan achosi mwy o berygl mewn gwirionedd oherwydd bod lle mor fach yn orlawn. Trwy gael cludiant am ddim ar y trenau unwaith eto bydd pob disgybl yn gallu cael cyfle teg i gael addysg a bydd yn gallu mynd ymlaen i wneud yr hyn y mae'n dymuno'i gyflawni mewn bywyd. Byddwn i gyd yn cael ein trin yn gyfartal ac ni fydd arian yn bryder mawr i neb.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon