Deiseb a gwblhawyd Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

 a. Gynyddu cyfanswm cyllid (refeniw) allanol i awdurdodau lleol i o leiaf y lefelau hynny a oedd yn berthnasol yn 2013/14 mewn termau real.

b. Cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n darparu ‘pŵer cymhwysedd cyffredinol’ i awdurdodau lleol yng Nghymru.

c. Annog awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau presennol i ddarparu nwyddau a gwasanaethau i rannau eraill o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac i ymchwilio a masnachu drwy ddatblygu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau y gellir eu cyflenwi i’r cyhoedd yn gyffredinol ac i’r sector preifat yn fwy cyffredinol.

d. Gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ryddhau ffrydiau refeniw presennol drwy, er enghraifft, ailariannu neu ddisodli cynlluniau PFI ar d.elerau mwy ffafriol, gan ddefnyddio’r cyfleoedd a gynigir gan gyfraddau llog hanesyddol isel.

e. Ymgymryd â chefnogi gwaith y Comisiwn Annibynnol Materion Ariannol Llywodraeth Leol Cymru

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gweld gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau lleol yng Nghymru, ac rydym o’r farn, drwy weithredu’r camau hyn y gall Llywodraeth Cymru helpu i atal difrod pellach i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn lleol; er, rydym yn cydnabod fod y camau hyn yn ddim ond rhan o’r ateb, ac y bydd angen rhoi terfyn ar raglen galedi Llywodraeth San Steffan i sicrhau y gall gwasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu mewn ffordd gynaliadwy a digonol yn y dyfodol.

Rhagor o fanylion

​UNSAIN Cymru yw Undeb Llafur mwyaf y sector cyhoeddus, sy’n cynrychioli oddeutu 100,000 o weithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae UNSAIN Cymru, yn ogystal ag ymgyrchu dros ddiweddu caledi a thros Ariannu Teg i Gymru gan Lywodraeth San Steffan, hefyd yn ymgyrchu dros ddiogelu gwariant ar lywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru, ac yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau y caiff gwasanaethau ein cynghorau, sy’n sicrhau bod ein cymunedau yn iach ac yn addysgedig eu diogelu

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,192 llofnod

Dangos ar fap

5,000