Deiseb a gwblhawyd Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn Ysgolion
Ers mis Ebrill 2016, mae Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru yn gorfod cofrestru â'r Cyngor Gweithlu Addysg – y corff sydd hefyd yn rheoleiddio athrawon a darlithwyr addysg bellach.
Eleni, y gwir ffi cofrestru a godwyd ar Weithwyr Cymorth Dysgu oedd £15. £45 oedd y ffi a godwyd ar staff dysgu a darlithio. Nid yw'r ffi a godir fis Ebrill 2017 yn glir eto. O ganlyniad i waith lobïo gan UNSAIN, cytunodd 12 o awdurdodau lleol i dalu'r ffi ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion yn 2016, naill ai'n llawn neu'n rhannol, gan gydnabod bod cyflogau'r gweithwyr hyn ymhlith yr isaf yn y sector cyhoeddus, yn bennaf oherwydd eu statws fel gweithiwr sy'n gweithio yn ystod tymor yn unig.
Hyd yma, mae cylch gorchwyl Cyngor y Gweithlu Addysg yn ymwneud yn bennaf ag athrawon a darlithwyr sy'n cael cyflogau llawer uwch na Gweithwyr Cymorth Dysgu.
Merched yw'r rhan fwyaf o Weithwyr Cymorth Dysgu, ac mae'r mwyafrif helaeth yn cael eu talu i weithio yn ystod y tymor yn unig, yn wahanol i athrawon a darlithwyr; mae eu cytundebau'n fwy tebygol o fod yn gytundebau am dymor penodol ac o fod ar drugaredd toriadau yng nghyllideb yr ysgol. Mae gan nifer ohonynt fwy nag un swydd eisoes.
Dylid cydnabod yr awdurdodau lleol hynny a ymrwymodd i dalu'r ffi'r llynedd. Ond, ar adeg pan mae cyllidebau'n tynhau o hyd, nid oes unrhyw sicrwydd y caiff ei dalu ym mis Ebrill 2017. Rhaid clustnodi arian ychwanegol yn y setliad llywodraeth leol i sicrhau nad oes disgwyl i Weithwyr Cymorth Dysgu ysgwyddo cost y ffi cofrestru fis Ebrill nesaf.
Oherwydd y rhesymau hyn, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i Glustnodi arian yn y setliad llywodraeth leol i ariannu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion ym mis Ebrill 2017
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon