Deiseb a gwblhawyd Diogelu Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllideb y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf er mwyn amddiffyn y teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed ledled Cymru, gan gynnwys yn ein hardal ni, Castell-nedd Port Talbot.
Caiff y rhaglen arloesi, Teuluoedd yn Gyntaf, ei hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo i ddatblygu systemau a chymorth amlasiantaeth effeithiol o fewn awdurdodau lleol, gyda phwyslais clir ar ymyrraeth gynnar ac atal niwed i deuluoedd, yn enwedig i'r rheini sy'n dlawd.
Ddiwedd mis Awst, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau lythyr at sylw awdurdodau lleol ynghylch dyfodol Teuluoedd yn Gyntaf, sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2017. Yn ei lythyr, amlinellodd y blaenoriaethau wrth fynd i'r afael â bylchau o ran darpariaeth gwasanaethau ar gyfer rhieni a phobl ifanc yn y dyfodol, gan gysylltu gwaith y rhaglen â'r dull o atal profiadau niweidiol i blant.
Disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ffurfiol ar ddyfodol y rhaglen yn yr hydref, ac ni cheir gwybod sut y caiff y gyllideb ei dyrannu ar gyfer pob awdurdod lleol tan ddiwedd Rhagfyr 2016. Â'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben ym mis Mawrth 2017, dyma gryfhau'r achos i'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf gael ei diogelu.
Yn y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu'r rhaglen, defnyddiwyd y cynllun 'Teulu'n Flaenaf' yng Nghastell-nedd Port Talbot i gynorthwyo bron i 100 o deuluoedd i wneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau a mynd i'r afael â materion cyn iddi fynd yn rhy hwyr, trwy ymyrraeth gynnar ac atal niwed. Mae'r Llywodraeth yn amcangyfrif y gall un teulu mewn trafferthion gostio oddeutu £75,000 y flwyddyn i'r trethdalwr, felly gellir cyfrifo gwerth o £3.32 am bob £1 a wariwyd gan arbed dros £7.3 miliwn i'r economi.
Cwtogodd Llywodraeth Cymru'r grant ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot o £260,000 ar gyfer 2016/17, â grant o £1,964,194. Defnyddiodd 2,586 o unigolion y gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod 2015-16 yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon