Deiseb a gwblhawyd Cryfhau’r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff

​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i: 

Gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus perthnasol eraill i weithio gyda'i gilydd i ddefnyddio eu pwerau a'u dyletswyddau presennol i gymryd camau gorfodi effeithiol ac effeithlon o fewn y diwydiant ailgylchu. 

Cryfhau'r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol lle bo angen er mwyn galluogi cyrff cyhoeddus perthnasol i gymryd camau gorfodi mwy effeithiol ac effeithlon (gan gynnwys monitro), a'u galluogi i erlyn a gosod cosbau ariannol cryfach ar gwmnïau a chyfarwyddwyr cwmnïau unigol sy'n torri eu rheolaethau gweithredol fel amodau cynllunio neu delerau eu trwyddedau gweithredol a thrwyddedau amgylcheddol;

Adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol i ganiatáu i'r cyhoedd, Gwasanaethau Tân ac Achub a chyrff cyhoeddus adennill y costau o ymdrin ag achosion, fel y tân diweddar yn South Wales Wood Recycling Ltd, os canfyddir yr achoswyd y tân o ganlyniad i esgeulustod y cwmni, gweithred droseddol neu achosion eraill o dorri rheoliadau, amodau neu ganiatadau gan y cwmni.

Adolygu'r rheolau diogelu'r amgylchedd a rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol i sicrhau nad oes unrhyw fath o gyfleusterau prosesu pren gwastraff yn cael eu lleoli'n agos at safleoedd preswyl, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig na safleoedd o bwysigrwydd i gadwraeth natur.

Cynnal asesiad cynhwysfawr ar y goblygiadau iechyd tymor hir yn sgil mewnanadlu'r llwch pren a achosir gan brosesu pren gwastraff a chynnal asesiad parhaus o'r haenau llwch a geir mewn cyfleusterau prosesu pren.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

232 llofnod

Dangos ar fap

5,000