Deiseb a gwblhawyd Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol

​Oherwydd y pwysau cynyddol ar gyllidebau, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystyried creu ymddiriedolaethau elusennol i gymryd drosodd y gwaith o redeg gwasanaethau cyhoeddus fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Y brif fantais o drefniant o'r fath yw'r rhyddhad ardrethi y byddai gan elusen hawl i'w gael. Mae hyn gyfystyr â symud arian o'r gronfa ganolog o ardrethi annomestig ac i gyllideb yr awdurdodau. Nid oes unrhyw arian cyhoeddus yn cael ei arbed yn gyffredinol, er bod gorbenion sy'n gysylltiedig â sefydlu trefniadau o'r fath a all gynnwys gwneud taliadau i ymgynghorwyr preifat arbenigol.

Mae Cyngor Sir Penfro ar fin dechrau'r broses o greu elusen i gymryd drosodd y gwaith o redeg yr holl wasanaethau hamdden a diwylliannol yn y sir gyfan. Mae bron yn anochel y bydd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn gwneud yr un peth er mwyn ymdrin â'r pwysau amhosibl ar eu cyllidebau eu hunain.

Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i newid y rheolau rhyddhad ardrethi fel bod yr holl gyfleusterau hamdden a diwylliannol a gaiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn yr un modd ag elusen. Os na chaiff hyn ei wneud, collir yr incwm ardrethi busnes hwn o hyd drwy greu'r ymddiriedolaethau elusennol hyn, ond byddwn yn colli rheolaeth ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddiangen yn y broses.

Dylid cael gwared ar y cymhelliant diangen hwn i allanoli ein gwasanaethau hamdden a diwylliannol pwysig.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

17 llofnod

Dangos ar fap

5,000