Deiseb a gwblhawyd Gwneud y cyfnod sylfaen yn fwy effeithiol ar gyfer ein plant, darparu mwy o athrawon a dileu y TASau blwyddyn 2.

Hoffwn i Gynulliad Cymru roi'r gorau i siomi ein plant yn y Cyfnod Sylfaen.

Dylai ddilyn esiampl systemau addysg mwyaf llwyddiannus Ewrop, fel yn y Ffindir a Sgandinafia.

Dylai ddarparu hyfforddiant a chyllid i ysgolion ar gyfer sicrhau cymarebau priodol rhwng athrawon a phlant, er mwyn cyflawni addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn effeithiol.

Galwaf am ddiddymu'r TASau, sef y profion gwladol, yn y Cyfnod Sylfaen. Yn syml, nid ydynt yn cyfateb ag ethos y Cyfnod Sylfaen.

Rhagor o fanylion

Rydym wrth ein bodd gydag ethos y cyfnod sylfaen. Mae ymagwedd y Cynulliad yn chwa o awyr iach, ac yn unol â sawl darn o waith ymchwil sy'n cefnogi chwarae a arweinir gan blant hyd at saith oed. Fodd bynnag, mae'n anffodus bod addysgeg y cyfnod sylfaen yn cael ei cholli mewn llawer o ysgolion ledled Cymru. Mae hyn oherwydd diffyg hyfforddiant mewn darpariaeth chwarae yn y blynyddoedd cynnar; hyd yn oed pe bai gan yr athro yr hyfforddiant, yr angerdd a'r ddealltwriaeth i ddarparu addysgeg y cyfnod sylfaen, mae'r cymarebau rhwng yr athrawon a'r plant yn ei gwneud bron yn amhosibl. Sut y gall unrhyw athro ddilyn plentyn wrth iddo chwarae pan mae hyd at 30 o blant yn y dosbarth hwnnw, gyda dim ond un cynorthwy-ydd addysgu i gefnogi pob un o'r plant hynny wrth iddynt chwarae, darganfod a dysgu?

​Nid ydym yn credu bod gan y TASau, sef y profion gwladol, unrhyw le yn y cyfnod sylfaen yng Nghymru. Mae'r cyfnod sylfaen yn ymwneud â chefnogi plant wrth iddynt chwarae:

I ddatblygu sgiliau echddygol bras drwy symud,

I ddatblygu sgiliau echddygol mân sy'n angenrheidiol ar gyfer ysgrifennu,

I gymryd risgiau a dysgu cyfrifoldeb,

I roi'r amser sydd ei angen arnynt i ddatblygu blociau adeiladu solid ar gyfer iaith a rhifedd,

I gael cyfleoedd i edrych yn ôl a dysgu yn ôl angen/dewis y plentyn hefyd,

I ddatblygu'r sgiliau i gael mynediad a darganfod eu hunain,

I ddysgu sgiliau cymdeithasol allweddol gyda'u cyfoedion ac oedolion,

Mae hwn yn ddull sydd wedi'i brofi er mwyn paratoi plant yn barod ar gyfer addysg gynradd yn saith oed. Dyma sut mae systemau addysg mwyaf llwyddiannus Ewrop yn gwneud pethau, ond mae disgwyl i blant chwech a saith oed ym mlwyddyn dau eistedd ac ysgrifennu mewn profion i gymharu ein plant â'r rhai yn Lloegr. Mae hyn yn gorfodi athrawon yn y Cyfnod Sylfaen i ddechrau dysgu seineg a rhifau i'n plant pan fyddant yn dechrau yn y Dosbarth Derbyn ac erbyn blwyddyn un bydd disgwyl iddynt eistedd ac ysgrifennu, gan eu gwneud yn barod ar gyfer y profion hynny sydd yn adlewyrchu ar yr ysgol.

Mae ein plant yn cael eu hamddifadu o'u plentyndod, plant sy'n dechrau yn yr ysgol yn ddim ond pedair oed yng Nghymru, sydd wedyn yn cael eu gorfodi i mewn i'r system hon, chwe awr y dydd o ddysgu dwys yn yr ystafell ddosbarth. Nid dyma ethos blaengar y Cyfnod Sylfaen y gwnaeth Cynulliad Cymru ei roi ar waith yn 2010. Rwy'n eich annog i gyd i ystyried effeithiolrwydd y Cyfnod Sylfaen ledled Cymru, gan ddarparu'r cyllid sydd ei angen i gael mwy o gynorthwywyr dysgu a hyfforddiant i ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen, fel y gall Addysg Gynradd Cymru fod yn un y gall Llywodraeth Cymru fod yn falch ohono, a ddarperir yn eithriadol ym MHOB ysgol ledled Cymru. Dylai pob plentyn yng Nghymru gael mynediad teg i chwarae cynhyrchiol, gan baratoi'r ffordd iddynt gael taith dysgu gadarnhaol a gwobrwyol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

14 llofnod

Dangos ar fap

5,000