Deiseb a gwblhawyd Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau gweithredu yn erbyn masnachu mewn anifeiliaid egsotig sy’n cael eu dal a’u magu ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes yng Nghymru. Dylai hefyd wahardd trwyddedu pob busnes sydd ynghlwm â’r fasnach ddinistriol, greulon ac anfoesegol hon, gydag eithriadau clir ar gyfer canolfannau achub a chanolfannau achub trwyddedig.

Rydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban, sydd wedi ymrwymo i adolygu masnachu a mewnforio anifeiliaid egsotig ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes yn yr Alban ym mis Chwefror 2015, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a'r Amgylchedd. Er mwyn i Gymru gael ei chymryd o ddifrif yn y gymuned gadwraeth fyd-eang, rydym o’r farn na allwn gael ein gweld yn caniatáu i’r fasnach hon barhau yn ein gwlad ein hunain. Mae hyn yn amlygu pryderon Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA), y Federation of Veterinarians of Europe (FVE) a'r RSPCA.

Rhagor o fanylion

​Mae anifeiliaid fel mwncïod, 'meerkats', ymlusgiaid a chrwbanod yn anifeiliaid gwyllt sy'n perthyn i’w cynefin naturiol, ac ni ddylent fod mewn cewyll a thanciau gwydr yng nghartref rhywun. Caiff dros 1000 o rywogaethau o famaliaid, adar, infertebratau, ymlusgiaid, amffibiaid a physgod eu magu a’u dal ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes egsotig. Ein dadl ni yw mai dim ond yn eu cynefinoedd naturiol y gellir bodloni anghenion cymdeithasol, corfforol ac ymddygiadol cymhleth yr anifeiliaid hyn. Hefyd, ceir tystiolaeth gref sy'n cysylltu’r fasnach mewn anifeiliaid egsotig â dinistrio cynefinoedd a difodiant rhywogaethau yn y gwyllt. Ochr yn ochr â dioddefaint anifeiliaid o'r fath wrth deithio - gan gynnwys llawer o gofnodion am farwolaethau - gall anifeiliaid ifanc dyfu i fod yn oedolion peryglus a all fynd dros ben llestri mewn amgylcheddau domestig nad ydynt yn addas i fodloni eu hanghenion lles am fwy o le a bwyd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

222 llofnod

Dangos ar fap

5,000