Deiseb a gwblhawyd Symud Cynulliad Cymru o Gaerdydd
Rydym yn galw am symud y Cynulliad Cenedlaethol o Gaerdydd i Aberystwyth er mwyn dechrau 'ail-gydbwyso' bywyd ac economi cenedlaethol Cymru.
Rhagor o fanylion
Mae Caerdydd yn ffynnu, ac yn tyfu ar gyfradd esbonyddol, tra bod y rhan fwyaf o Gymru yn aros yn ei hunfan, sy'n ei gwneud yn glir nad yw'r model presennol Caerdydd/Cymru o ddatblygu economaidd yn gweithio ar gyfer 80 y cant o'r wlad.
Mae Caerdydd yn cael y gyfran fwyaf o fuddsoddiad a swyddi yn cael effaith andwyol ar weddill y wlad, ac er bod y duedd hon yn weladwy yn y degawdau sydd wedi mynd heibio, mae wedi ennill mwy o fomentwm a dod hyd yn oed yn fwy niweidiol er lles y genedl ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eistedd am y tro cyntaf ym 1999.
Yn waeth na hynny, mae tystiolaeth gynyddol o lygredd; y math o lygredd sy'n anochel pan fo'r rheini sydd â dylanwad gwleidyddol a rheolaeth ar y pwrs cyhoeddus yn cyfarfod yn rheolaidd, mewn cyd-destunau cymdeithasol a chyd-destunau eraill, y rheini sy'n ceisio manteisio ar gysylltiadau o'r fath.
Credwn, yn y byrdymor, mai'r ffordd hawsaf o wella'r anghydbwysedd anghynaladwy a chynyddol hwn, a'r bygythiad cynyddol o lygredd, yw symud Cynulliad Cymru a'i hasiantaethau a'i hadrannau amrywiol y tu allan i Gaerdydd.
Byddai Aberystwyth yn leoliad delfrydol a chanolog ar gyfer y Cynulliad a'i staff cymorth. Gellid lleoli asiantaethau eraill o amgylch y wlad, oherwydd yng nghyfnod y rhyngrwyd a fideo-gynadledda, nid oes angen i weision sifil ac eraill weithio y drws nesaf i'w gilydd.
Byddai'r buddion i rai o'r rhannau o Gymru sydd wedi'u hesgeuluso fwyaf yn gwneud iawn yn fuan am y costau cychwynnol sy'n ymwneud â'r adleoliadau.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon