Deiseb a gwblhawyd Mae Angen Cyfyngiadau Llymach ar Cyfoeth Naturiol Cymru.

​Mae angen llywodraethu a chraffu llymach ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae angen rhoi'r gorau i droi tir amaethyddol proffidiol yn gynefinoedd ac yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle mae'n rhaid i'r ffermwr gydymffurfio gyda hyd yn oed mwy o gyfyngiadau er mwyn ceisio gwneud bywoliaeth!

Ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (yr ochr Amgylcheddol) yn sefydliad sy'n cynnwys swyddogion nad ydynt yn barod i wrando ar wybodaeth leol, a dim ond yn rhoi cyngor yn unol â'r hyn y gallant ei ddarllen mewn llyfrau! Dim ond un nod mewn bywyd sydd ganddynt, a hynny yw troi ein cefn gwlad yn un warchodfa natur amhroffidiol enfawr ar draul y trethdalwr a chymunedau gwledig yn gyffredinol! Mae angen i'n cynrychiolwyr etholedig graffu'n agosach ar eu gwaith!

Felly, rydym yn galw ar y Cynulliad i adolygu arferion a pholisïau cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y ffordd y mae'n gweinyddu tir a allai gael ei droi'n gynefin neu'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ar hyn o bryd, mae'r sefydliad yn gwneud mwy o ddrwg na da i gefn gwlad! Mae angen taro cydbwysedd a fydd o fudd i bawb.

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

19 llofnod

Dangos ar fap

5,000