Deiseb a gwblhawyd Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn credu bod cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol Llywodraeth Cymru yn annigonol o ran diwallu anghenion busnesau yr effeithir arnynt gan ailbrisiadau diweddaraf adeiladau, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn o fesurau rhyddhad ardrethi parhaol i ysgafnhau'r pwysau ariannol ar fusnesau bychain.
Rhagor o fanylion
Bydd nifer o fusnesau bychain yng Nghymru'n wynebu'r posibilrwydd o orfod cau o ganlyniad i ardrethi busnes uwch oherwydd ailbrisiadau gorfodol.
Bydd cynllun rhyddhad ardrethi estynedig ar gael i fusnesau bychain yn Lloegr o fis Ebrill 2017 ymlaen, a fydd yn lleihau eu hardrethi ac yn lliniaru'r effaith a gaiff ailbrisiadau arnynt.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cynllun rhyddhad hwn i fusnesau Cymru i warchod ein Stryd Fawr.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon