Deiseb a gwblhawyd Achub Gwasanaethau TWF

Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Mudiad Meithrin, i ailystyried penderfyniad andwyol y llywodraeth ddiwethaf i ddiddymu prosiect TWF. Yn benodol, rwy'n galw ar y Llywodraeth i weithredu ar frys i:

• wrthdroi'r penderfyniad o dorri £200,000 i'r prosiect sy'n olynu TWF

• adfer parhad o’r cymorth yr oedd TWF yn ei gynnig a oedd yn canolbwyntio ar drosglwyddiad iaith a chefnogi babanod a rhieni newydd yn genedlaethol, hytrach nag yn dameidiol. Byddai hyn yn golygu adfer swyddi i swyddogion gyda phresenoldeb yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Tor-faen a Wrecsam.

• sicrhau cyllid ar gyfer gweithgareddau hybu’r Gymraeg i rieni sydd â chysylltiadau â gwasanaethau megis Cymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith, Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden, gan gynnwys gweithgareddau sy'n rhoi cymorth i iechyd meddwl ôl-enedigol hefyd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

912 llofnod

Dangos ar fap

5,000