Deiseb a gwblhawyd Cerflun i Anrhydeddu Billy Boston

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i anrhydeddu un o arwyr chwaraeon Prydain a Chymru, Billy Boston, gyda cherflun ym Mae Caerdydd.

Cafodd ei eni a'i fagu yn ardal y dociau yng Nghaerdydd ac mae'n hen bryd i'w lwyddiannau ar y maes chwarae gael eu cydnabod gan ei dref enedigol a'i wlad.

Ar ddechrau ei yrfa rygbi, cafodd ei anwybyddu gan glwb ei dref enedigol, Clwb Rygbi Caerdydd, ac o ganlyniad ni wireddwyd ei freuddwyd o chwarae ym Mharc yr Arfau. Wigan wnaeth elwa ar golled Caerdydd a Chymru, ac aeth Billy ymlaen i sgorio 478 cais mewn 487 gêm i'r clwb. Dyma rai o uchafbwyntiau eraill ei yrfa:

Tair Cwpan Her a theitl Pencampwriaeth RFL ym 1960

24 cais mewn 31 gêm ar gyfer Prydain ac roedd yn aelod o'r tîm a enillodd Cwpan y Byd ym 1960.

Mae Wigan wedi ei anrhydeddu yn ddiweddar gyda cherflun, a cheir cerflun hefyd yn stadiwm Wembley yn tynnu sylw at ei ddylanwad a'i statws o fewn rygbi'r gynghrair.

Mae Clwb Rygbi CIAC (clwb cyntaf Billy) yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd i godi arian ac ati, ac mae gennym chwaraewr ar hyn o bryd sy'n gerflunydd ac a fyddai'n fwy na hapus i fod yn rhan o'r prosiect.

Mae'n bryd cywiro camweddau'r gorffennol, a rhoi i Billy y parch a'r anrhydedd y mae'n eu haeddu gan Gaerdydd a Chymru, a pha well ffordd o wneud hynny na gyda cerflun yn y rhan o Gaerdydd lle y cafodd ei eni a'i fagu. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

151 llofnod

Dangos ar fap

5,000