Deiseb a gwblhawyd Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i berswadio Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant a phobl ifanc Cymru drwy gydnabod yn ffurfiol fod unrhyw un sy’n 'Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant' yn cam-drin plentyn yn emosiynol. Rydym yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau penodol i leihau’r effaith a gaiff achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant ar blant a'u teuluoedd.

Rhagor o fanylion

Rydym yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau a ganlyn:

• Cydnabod bod unrhyw un sy’n ‘Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant’ yn cam-drin plentyn yn emosiynol ac, wrth ddiffinio’r term, dylid cynnwys y diffiniad a gafwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (paragraff 1) yma  https://petition.parliament.uk/petitions/164983

• Comisiynu ac ariannu hyfforddiant gorfodol i weithwyr proffesiynol gan gynnwys staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a Cafcass Cymru (ond nid dim ond y rhain), i’w helpu i adnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant ac i sicrhau eu bod yn gwybod am y trefniadau sydd ar waith i ddiogelu plant rhag niwed.

•Sefydlu ac ariannu ymgyrch genedlaethol i roi gwybodaeth i blant a'u teuluoedd a’u dysgu am y cysyniad o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant a'r niwed y mae'n ei achosi.

• Rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin a’u niweidio drwy eu Dieithrio oddi wrth Riant.

Dyma sut y diffiniwyd 'Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant’ gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder:

‘In cases where parents are separated, parental alienation refers to a situation in which one parent (usually the parent with whom the child lives) behaves in a way which creates anxiety in the child, so that it appears the child is opposed to living or spending time with the other parent.'

Daw'r diffiniad hwn o’r paragraff cyntaf yn ymateb y Llywodraeth i ddeiseb Mr. Darren Towill sydd i’w gweld yn: https://petition.parliament.uk/petitions/164983

Mae CAFCASS Lloegr eisoes wedi cydnabod bod unrhyw un sy’n dieithrio plentyn oddi wrth riant yn euog o gam-drin y plentyn hwnnw. Mewn erthygl yn y Telegraph ar-lein, dyddiedig 12 Chwefror, 2017, dywedodd Anthony Douglas, Prif Weithredwr CAFCASS,  fod Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant yn sicr gyfystyr ag esgeuluso neu gam-drin plentyn, o ran ei effaith bosibl.  http://www.telegraph.co.uk/news/2017/02/12/divorced-parents-pit-children-against-former-partners-guilty/

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,063 llofnod

Dangos ar fap

5,000