Deiseb a gwblhawyd Diffyg Cymorth i Blant ag Anableddau Mewn Argyfwng

Yr wyf yn ceisio tynnu sylw at yr angen i dîm argyfwng plant Cwm Taf gydnabod bod angen hanfodol i blant ag anableddau gael cymorth mewn argyfwng, a chael yr hawl i gael eu trin fel unrhyw blentyn arall.

Yr wyf yn fam i bedwar o blant. Mae gan Tom, fy mab canol, anghenion niferus, anawsterau dysgu difrifol, awtistiaeth, anhwylder hwyliau yn ogystal â phroblemau iechyd ychwanegol eraill. Mae Tom yn cyrraedd pwynt argyfwng bob hyn a hyn, sy'n golygu cynnydd mewn ymddygiad ymosodol, gweiddi yn uwch nag arfer, anafu ei hun yn ogystal ag eraill, a llawer o newidiadau eraill mewn ymddygiad. Mae sgiliau cyfathrebu Tom yn hynod gyfyngedig ac nid yw'n gallu dweud wrthym beth sydd o'i le na beth y gallwn ei wneud i helpu. Rydym wedi bod ar bwynt argyfwng gyda Tom, sydd bellach yn 15 oed ac ar ddogn uchel o feddyginiaethau, lawer gwaith dros y blynyddoedd ac mae'n rhyfeddol nad yw'r sefyllfa wedi gwella o ran cymorth i blant ag anableddau pan fyddant mewn argyfwng. Mae Tom mewn argyfwng ar hyn o bryd, ac wedi bod felly ers peth amser. Ychydig iawn o gymorth yr ydym ni fel teulu wedi'i gael, os o gwbl, i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn. Rwyf wedi cael gwybod bod tîm argyfwng plant yn bodoli. Fodd bynnag, nid yw'n cefnogi plant ag anableddau! Siawns nad yw plentyn mewn argyfwng, p'un a oes ganddo anableddau neu beidio, yn dal i fod yn blentyn mewn argyfwng. Yn wir, efallai fy mod yn anghywir, ond mewn rhai achosion efallai bod angen mwy o gymorth argyfwng arno. Ni allaf gredu bod y rhaniad hwn yn dal i fod yn dderbyniol yn yr oes hon.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

200 llofnod

Dangos ar fap

5,000