Deiseb a gwblhawyd Adeiladu Ffordd Osgoi Cas-gwent i Gael Gwared ar y Tagfeydd oddi ar yr M48 i'r A48

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymdrin yn ymarferol â'r broblem tagfeydd ar yr A48 drwy Gas-gwent unwaith ac am byth.

Mae lleihau'r doll ar Bont Hafren yn cynnig cyfle anferthol am dwf yn Sir Fynwy, Fforest y Ddena a de-orllewin Cymru. Fodd bynnag, mae seilwaith y ffordd yn annigonol. Mae'r A48 eisoes yn dioddef tagfeydd ac ansawdd aer gwael drwy dref Cas-gwent. Gyda'r ystadau tai newydd yn Sir Fynwy a Fforest y Ddena, mae'r cynigion presennol yn methu, mewn modd annerbyniol, i hwyluso twf.

Mae'r cynllun hwn wedi bod yn ddyhead ers y 1960au ac oni bai y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o'r diwedd yn cydweithredu ac yn ymrwymo, yna bydd y ffyniant economaidd sydd o fewn cyrraedd yn cael ei atal, gan adael, yn lle hynny, i ansawdd bywydau preswylwyr ddirywio a llesteirio datblygiad economaidd cynaliadwy.

Rhagor o fanylion

​Enghraifft dda o sut mae'r mater hwn wedi cael ei esgeuluso gan bob cangen o lywodraeth yw bod chwaer ddeiseb wedi'i chyflwyno i Lywodraeth y DU gan ei bod wedi gwrthod y gwreiddiol gan ddweud ei fod yn fater i Gymru yn unig.

Rydym yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau nad yw'r llwybr trafnidiaeth hanfodol hwn yn dod yn syrthio i'r fagl o gael ei basio i ochr arall y ffin.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

201 llofnod

Dangos ar fap

5,000