Deiseb a gwblhawyd Ar Gyfer Eitemau Untro: Cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar Gyfer Cynwysyddion Diodydd a Sicrhau y Gellir Compostio Cynwysyddion Bwyd Cyflym a'r Offer sy'n Gysylltiedig â Hwy.

​Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu er mwyn i Gymru gyfrannu'n gadarnhaol at y nod byd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac i adeiladu ar y canlyniadau rhagorol a gafwyd drwy godi tâl ar fagiau plastig, drwy weithredu dau gam arall a fyddai'n helpu Cymru i gyrraedd economi diwastraff, cylchol. Hynny yw:

  1. Cyflwyno system dychwelyd ernes yng Nghymru ar gyfer pob cynhwysydd diod untro, fel poteli gwydr a phlastig a chaniau alwminiwm.
  2. Deddfu er mwyn codi tâl ar yr holl gynwysyddion bwyd a diodydd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy nad oes modd eu compostio'n llawn, oni bai ei bod yn bosibl eu hailddefnyddio, eu hail-lenwi, eu cynnwys mewn cynllun dychwelyd neu eu casglu i'w hailgylchu mewn siopau.

Mae systemau dychwelyd ernes eisoes ar waith mewn mwy na 40 o wledydd ledled y byd a phrofwyd bod y rhain yn lleihau sbwriel, yn cynyddu cyfraddau ailgylchu drwy greu cyflenwad mwy dibynadwy o ddeunyddiau o ansawdd da, yn lleihau costau ar gyfer awdurdodau lleol ac yn creu swyddi.

Mae papurau lapio bwyd cyflym a chwpanau untro yn eitemau sbwriel cyffredin ar ein strydoedd a bydd sicrhau bod modd eu hail-lenwi/eu hailddefnyddio, a'i bod yn hawdd eu hailgylchu neu eu compostio, yn lleihau sbwriel.

Mae'r gwaith o gynhyrchu cynwysyddion diodydd newydd yn ogystal â chynwysyddion bwyd cyflym a chwpanau newydd yn defnyddio llawer iawn o ynni, sy'n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Po fwyaf yr ydym yn ailgylchu, a pho leiaf o ysbwriel yr ydym yn ei ollwng, gorau oll ar gyfer ein hamgylchedd a'n heconomi.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,994 llofnod

Dangos ar fap

5,000