Deiseb a gwblhawyd Meithrin gallu plant i wrthsefyll seiberfwlio

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu a chynnal gwaith ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth, a chynhyrchu strategaeth ac argymhellion i feithrin gallu ein plant, o’u plentyndod cynnar,  i wrthsefyll effeithiau distrywiol seiberfwlio.

Rhagor o fanylion

​Dylai’r strategaeth gynnwys cyngor i rieni ac ysgolion ynghylch:

* sut i greu safbwyntiau iach a chreu perthynas iach ag eraill ar y cyfryngau cymdeithasol

* sut i baratoi plant i adnabod ac amddiffyn eu hunain rhag y math o ymddygiad sy’n cyfateb i seiberfwlio

* sut i ddysgu plant i wahanu profiadau ar-lein oddi wrth brofiadau bywydau ‘go iawn’

* sut i feithrin gallu plant i ymdopi’n emosiynol ag ymosodiadau personol ar-lein

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

421 llofnod

Dangos ar fap

5,000