Deiseb a gwblhawyd Cysylltiadau bws a rheilffyrdd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adfer a/neu wella’r cysylltiadau trên a bws rhwng Caerfyrddin yn sir Gaerfyrddin ac Aberystwyth yn sir Ceredigion.
Rhagor o fanylion
Efallai eu bod mewn siroedd cyfagos, ond mae’r daith trên o Gaerfyrddin i Aberystwyth yn farathon sy’n cymryd mwy na chwe awr. Daeth Rheilffordd Manceinion a Milford, a oedd yn cysylltu Caerfyrddin ac Aberystwyth, i Dregaron yn 1866 o gyfeiriad y de. Roedd yn gweithredu fel llwybr ‘rheolaidd’ rhwng trefi Caerfyrddin ac Aberystwyth ac roedd yn cysylltu De a Gogledd Cymru, cyswllt nad yw’n bodoli bellach yn anffodus, ar lwybr mor syml, gan i adroddiad yr Arglwydd Beeching ar ail-lunio Rheilffyrdd Prydain arwain at gau llawer o reilffyrdd yn yr 1960au. Heddiw, gyda thwf Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan fel rhai o brifysgolion mwyaf urddasol Prydain, ynghyd â harddwch llawer o drefi glan y môr fel Aberaeron, mae trigolion Cymru’n galw am i’r llwybr trên hwn gael ei ailsefydlu. Byddai’n gwneud y gwaith o deithio i gymudwyr yn haws, yn gyflymach ac yn fwy diogel gan y gallai rheilffordd fyddai’n cysylltu prif drefi’r gorllewin leihau traffig a damweiniau ar ffyrdd gwledig sef, yn ystadegol, y rhai mwyaf peryglus.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon