Deiseb a gwblhawyd Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu'r dull angenrheidiol i ganiatáu i Gyfoeth Naturiol Cymru ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn yn llawn i geir preifat adeg y Pasg 2018.

Rhagor o fanylion

​Yn ystod haf 2014, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai Ffordd Goedwig Cwmcarn, a elwir hefyd yn Daith Cwmcarn, ar gau am o leiaf ddwy flynedd o fis Tachwedd 2014, a bod hyn yn angenrheidiol oherwydd haint llarwydd Japan yn nyffryn Cwmcarn a'r llechweddau cyfagos. Mae'r broses o gael gwared ar y llarwydd bellach bron wedi'i gwblhau ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau adfer y llwybrau beiciau a llwybrau troed, ond nid ymddengys fod bwriad adfer Taith Cwmcarn, er bod y mwyafrif helaeth o'r llwybr heb ei niweidio. Mae canolbwyntio ar ddefnyddwyr ceir preifat y ffordd yn annheg ac yn ddianghenraid pan fydd defnyddwyr eraill dim ond yn wynebu amhariad dros dro. Mae llawer o'r rhai sy'n cael mynediad i'r Ffordd gyda char preifat yn gwneud hynny am na allant symud llawer - mae rhai yn deuluoedd gyda phlant bach, mae llawer yn hŷn, yn anabl neu o'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig a mewnfudwyr. Mae methu â darparu cyfleuster ar gyfer y bobl hyn yn wahaniaethol, yn enwedig pan fo cynlluniau, a'r arian ar gael, i ddarparu cyfleusterau pellach ar gyfer defnyddwyr eraill. Mae diffyg ffordd sy'n gwbl hygyrch yn amddifadu'r bobl hynny sydd fwyaf difreintiedig yn ddiwylliannol ac yn fateryddol o'u prif gyfleuster ar gyfer iechyd a lles. Mae ein sefydliad, Cyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn eisiau mynediad cyfartal i holl ddefnyddwyr Taith Cwmcarn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu ffordd o wneud hyn yn bosibl.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,450 llofnod

Dangos ar fap

5,000