Deiseb a gwblhawyd Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd camau i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Rydym yn gofyn yn benodol i’r Cynulliad gyflwyno’r egwyddor o ‘asiant dros newid’ sy’n sicrhau mai’r rhai sy’n datblygu unrhyw eiddo newydd sy’n gyfrifol am ddatrys problemau’n ymwneud â sŵn o fusnesau  gerllaw sydd wedi’u sefydlu’n barod. Rydym yn galw ymhellach ar y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu i ganiatáu i awdurdodau lleol gydnabod ardal o ‘arwyddocâd diwylliannol cerddorol’ fel rhan o’r fframwaith cynllunio.

Rhagor o fanylion

​Mae’r egwyddor o ‘asiant dros newid’ wedi’i mabwysiadu yn Lloegr ac mae’n diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw sydd wedi’u sefydlu eisoes drwy sicrhau mai’r person neu’r busnes sy’n gyfrifol am unrhyw newid sydd hefyd yn gyfrifol am reoli effaith y newid hwnnw. Felly, os caiff tai neu westy eu codi’r drws nesaf i leoliad cerddoriaeth fyw, cyfrifoldeb y datblygwr, yn hytrach na’r lleoliad cerddoriaeth fyw, yw lleihau effaith y sŵn. Os na chaiff yr egwyddor o ‘asiant dros newid’ ei mabwysiadu yng Nghymru, bydd datblygiadau newydd yn bygwth lleoliadau cerddoriaeth fyw. Dyma sy’n digwydd ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd, lle bwriedir adeiladu gwesty newydd. Yn ogystal â hyn, ar hyn o bryd mae Maer Llundain yn cynnig cydnabod rhannau o Lundain fel ‘ardal o arwyddocâd diwylliannol cerddorol’. Rydym yn credu y dylai awdurdodau lleol Cymru fedru dewis gwneud hyn hefyd, yn enwedig yn achos lleoedd fel Stryd Womanby, lle dechreuodd gyrfa cynifer o gerddorion Cymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,383 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 12 Gorffennaf 2017

Gwyliwch y ddeiseb ‘Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2017.