Deiseb a gwblhawyd Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru.

Mae'r elusen hon yn unigryw yng Nghymru. Nid yw Autism Spectrum Connections Cymru yn cael dim cyllid gan y Llywodraeth ar hyn o bryd. Mae'n dibynnu'n llwyr ar gyllid gan ffynonellau nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn gallu ei chefnogi'n barhaol.

Mae'r ganolfan galw heibio agored, unigryw hon yn chwarae rhan bwysig o ran gwella bywydau pobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru.

Hoffem gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd yr elusen hon yn parhau i fod ar agor ac yn cael ei hariannu'n llawn o hyd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

148 llofnod

Dangos ar fap

5,000