Deiseb a gwblhawyd Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wella'r driniaeth a roddir i oedolion mewn gwasanaethau iechyd meddwl gan ganolbwyntio'n benodol ar wella gwasanaethau yn y gymuned, fel y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, adrannau damweiniau ac achosion brys, gwasanaethau i gleifion mewnol a gwasanaethau ambiwlans.

Yn rhy aml, mae'r gwasanaethau iechyd meddwl wedi siomi oedolion. Mae'n warthus meddwl bod miloedd o oedolion bob dydd yn cael eu troi o'r neilltu pan fyddant yn crefu am gymorth. Cael eich derbyn i'r ysbyty a'ch asesu'n gyflym gan seiciatrydd sy'n dweud y dylech 'wneud rhywbeth i dynnu'ch sylw oddi wrth eich problemau, a byddwch yn iawn' a chael eich anfon adref.

Rwy'n deall y bu toriadau mawr i'r gwasanaethau hyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond a dweud yn gwir mae'n annerbyniol. Ni ddylid rhoi pris ar iechyd meddwl rhywun. Dylid rhoi gofal o'r un lefel i iechyd meddwl ag i iechyd corfforol.

Pam mae mwy o gefnogaeth ar gyfer plant sy'n dioddef o iechyd meddwl? Mae cymorth ar gael i blant ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r ysbyty, ond nid oes dim ar gyfer oedolion. Efallai y gwneir addewidion y byddant yn derbyn cymorth gan wasanaethau penodol, ond mae'r addewidion yn mynd i'r gwellt yn gyflym. Rwy'n ffieiddio at y straeon erchyll rwyf wedi'u clywed gan bobl yn y system. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y diffyg gofal ar gyfer oedolion sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael. Mae angen i hyn newid ac mae angen iddo newid yn gyflym. Nid wyf yn fodlon sefyll o'r neilltu mwyach a gwylio hyn yn digwydd. 

Rwyf am weld newidiadau enfawr yn y ffordd y mae cleifion sy'n oedolion yn cael triniaeth a chymorth. Dylai pob gwasanaeth gydlynu â'i gilydd i ddarparu'r gofal gorau posibl. Ar hyn o bryd mae'r trefniadau cyfathrebu rhwng gwasanaethau yn ddiffygiol, gan adael y claf heb gefnogaeth. Os oes angen gwasanaethau brys ar gleifion, mae angen i rywfaint o gymorth dilynol fod ar gael pan fyddant yn dychwelyd adref. Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau ar agor rhwng 9am a 5pm, ond nid yw iechyd meddwl yn diflannu am 5pm ac mae angen mwy o gymorth hygyrch ar ôl yr oriau arferol. Rwyf am weld mwy o ofal gan staff hefyd. Efallai eu bod wedi cael yr hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer eu swydd ond nid oes empathi a pharch i'w gweld yn unman. Mae'n bryd i bethau newid.

Rhagor o fanylion

​Iawn, beth am sgwrsio.

Gall iechyd meddwl fod yn dipyn o bwnc tabŵ o hyd, ond arhoswch gyda mi am funud. Rwyf am i chi ddychmygu teimlo'n hollol ar goll, yn wag ac heb reswm i fyw. Rydych am i'r boen ddod i ben felly rydych chi'n cymryd cam anoddaf eich bywyd; rydych yn gofyn am help. Yr unig beth rydych chi ei eisiau yw i rywun gydnabod pa mor ddrwg yw eich poen a gwneud iddo ddiflannu. 

Mae'r meddygon / parafeddygon / heddlu / seiciatrydd yn dweud wrthych nad yw'n 'ddim byd i boeni amdano, rhaid eich bod chi'n cael diwrnod gwael ac mae hynny'n beth arferol'. Y gwir yw ei fod yn fwy na dim ond diwrnod gwael, rydych chi wedi methu â dianc o'r lle tywyll hwn ers llawer mwy na hynny. Nid ydynt yn gwrando, rydych chi'n mynd adref ac er nad oeddech yn meddwl ei bod yn bosibl, rydych chi'n teimlo'n waeth nag oeddech cyn gofyn am help. 

NID DYMA SUT DYLAI PETHAU FOD! Dylai'r cymorth a'r gefnogaeth fod ar gael yn rhwydd i'r rhai sydd eu hangen, ond nid felly y mae hi a dyna beth y mae angen ei newid. Os bydd y ddeiseb hon yn gweithio, gallai achub miloedd o fywydau bob dydd. Dangoswch eich cefnogaeth trwy lofnodi'r ddeiseb hon a'i rhannu. Mae'n rhaid i bethau newid.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

84 llofnod

Dangos ar fap

5,000