Deiseb a gwblhawyd Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau effeithiol i arafu traffig ar hyd cefnffordd yr A487 sy'n dirwyn yn uniongyrchol drwy ganol pentrefi cyfagos Tre Taliesin a Thre'r Ddôl, ac i ymgynghori â'r trigolion sy'n byw yn y pentrefi hyn a cheisio'u barn.

Rhagor o fanylion

​Yr A487 yw'r brif gefnffordd rhwng y gogledd a'r de ac mae'n dirwyn ar hyd arfordir gorllewin Cymru. Mae nifer fawr a chynyddol o gerbydau sy'n goryrru a thraffig nwyddau trwm yn teithio ar hyd y gefnffordd hon drwy ganol pentrefi cul Tre Taliesin a Thre'r Ddôl yng Ngheredigion. Ddiwedd 2016, ffurfiwyd Grŵp Gweithredu Taliesin A487 gan y pentrefwyr. Mae'r grŵp gweithredu lleol wedi cyfarfod a chyfathrebu'n agos â Chyngor Cymuned Llangynfelyn, Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Sir Ceredigion a'r Aelod Seneddol lleol i gynnal dadansoddiad o'r problemau a'r atebion posibl. Mae'r grŵp hefyd wedi mynegi'i bryderon wrth Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd-orllewin Cymru, ac wedi cynnig cyfarfod â hi i gyfleu eu safbwyntiau, ond ni dderbyniwyd y gwahoddiad hyd yma.

Mae'n bwysig bod llais pentrefwyr sy'n byw o ddydd i ddydd gyda thraffig sy'n goryrru yn cael ei glywed a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried eu safbwyntiau'n llawn, er mwyn i fesurau arafu traffig effeithiol, sy'n diogelu pentrefwyr a defnyddwyr y ffordd, gael eu cynllunio a'u rhoi ar waith.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

52 llofnod

Dangos ar fap

5,000