Deiseb a gwblhawyd Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio i un ar bymtheg ar gyfer yr etholiadau hynny lle y mae ganddo'r pwerau i wneud hynny.

Rhagor o fanylion

​Rydym yn byw mewn cymdeithas ddemocrataidd a dylai pob aelod ohoni feddu ar y gallu i fod yn gyfrifol am eu dewisiadau yn ein gwlad. Yn un ar bymtheg gallwch briodi, cael babi, a thalu trethi. Yn un ar bymtheg gallwch gyfrannu at economi'r wlad, ond ni allwch eto benderfynu sut y caiff arian cyhoeddus ei wario.  

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

87 llofnod

Dangos ar fap

5,000