Deiseb a gwblhawyd Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg
Mae SWAT wedi ymladd i gadw gwasanaethau gofal iechyd eilaidd diogel, effeithiol a hygyrch i bobl Sir Benfro ers 2005. Methodd deiseb flaenorol i gadw darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg. Heb gyfiawnhad, cafodd y Gweinidog dros Iechyd a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wared ar ddarpariath Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg yn 2014 a adawodd pobl Sir Benfro gydag opsiwn iechyd trydydd dosbarth anniogel, annheg ac anhygyrch i famau, babanod a phlant yn arbennig.
Ar ran SWAT a phobl Sir Benfro rwy'n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddarpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn dychwelyd ar unwaith i'r lefelau cyn 2014. Nid yw SWAT a phobl Sir Benfro yn cytuno â chanoli gwasanaethau i safle Glangwili.
Roedd yn rhaid i'r Bwrdd Iechyd gynnal asesiadau o effaith ar gydraddoldeb ac mae'r rhain wedi dangos yn glir bod carfan gyfan o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wedi bod ac yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd y newidiadau hyn. Yn benodol, mae'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, yr ifanc iawn, menywod beichiog, y rhai sydd wedi'u herio'n economaidd a'r rhai ag anableddau wedi cael eu heffeithio'n sylweddol ac yn parhau i gael eu heffeithio gan hyn. Mae gan y Bwrdd Iechyd hyn i gyd wedi'i ddogfennu yn ei asesiadau, ond ymddengys ei fod yn methu neu'n anfodlon dod o hyd i atebion ar gyfer y materion hyn.
Rwy'n gofyn ichi ddychwelyd gwasanaethau i'r gwasanaethau o'r radd flaenaf yr oeddent yn arfer bod. Byddai hyn yn ail-ddarparu gwasanaethau teg, hygyrch, diogel a chynaliadwy yn hytrach na'r trefniant presennol sy'n anfantais difrifol i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn Sir Benfro.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon