Deiseb a gwblhawyd Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,133 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda'r deisebydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r ddeiseb i'w hystyried fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru'.

Busnes arall y Senedd

Ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu adroddiad ac argymhellion ar Addysgu hanes Cymru ym mis Tachwedd 2019: https://busnes.senedd.cymru/documents/s97090/Report.pdf