Deiseb a gwblhawyd Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru, yng nghyd-destun ei hymgynghoriad ar y diwygiadau i gyfreithiau trwyddedu tacsis, i gau'r bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith, gan olygu bod cannoedd o dacsis a cherbydau hurio preifat o'r tu allan i'r dref yn heidio i Gaerdydd i weithio ar sail hurio preifat.

Rhagor o fanylion

Mae digon o gerbydau trwyddedig yng Nghaerdydd i wasanaethu'r ddinas heb fod angen y ceir hyn o leoedd mor bell i ffwrdd â Llundain, Glannau Mersi, Canolbarth Lloegr ac ati yn ogystal ag awdurdodau cyfagos fel Casnewydd, y Fro a Rhondda Cynon Taf ac ati. Cafwyd cerbydau hyd yn oed nad oeddynt yn gweithio ar unrhyw lwyfan, gan weithredu'n anghyfreithlon a chuddio y tu ôl i'r ffaith fod cynifer o dacsis 'estron' yn y ddinas.

Nid oes DIM marciau ar lawer o'r cerbydau hyn, sy'n dirmygu'r safonau a osodwyd gan Gyngor Sir Caerdydd ar gyfer cerbydau y mae'n eu trwyddedu, gan gynnwys lifrai amlwg iawn a gwybodaeth fanwl am y strydoedd lleol. Gwaetha'r modd dim ond mater o amser yw hi cyn i rywun agored i niwed neidio i mewn i gar heb drwydded, â chanlyniadau trychinebus.

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau mai'r unig dacsis a cherbydau hurio preifat y caniateir iddynt weithio yng Nghaerdydd yw'r rhai a drwyddedwyd gan Gyngor Sir Caerdydd. Y rheswm am hyn yw i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac i sicrhau nad yw Caerdydd yn cael ei gorlenwi â mwy o geir na'r hyn sydd ei angen gan y bydd hynny'n arwain at fwy fyth o dagfeydd a llygredd yn ein prifddinas os caniateir i'r sefyllfa barhau. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i yrwyr presennol a drwyddedir gan Gyngor Caerdydd ennill rhywbeth sy'n agosáu at fod yn gyflog byw.​

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

390 llofnod

Dangos ar fap

5,000