Deiseb a gwblhawyd Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor gorsaf drenau Crymlyn. Rydym yn credu y gallai Crymlyn fod yn ganolfan drafnidiaeth gyhoeddus bwysig. Byddai ei lleoliad allweddol yn cynnig pwynt cyfnewid ar gyfer sawl dull teithio rhwng gwasanaethau rheilffordd llinell Glynebwy ar ei newydd wedd a phrif lwybr y bysiau cyflym rhanbarthol drwy ganol y cymoedd. Mae safle'r orsaf yn gyfleus ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd, ac mae ganddo faes parcio mawr a lle i fysiau. Mae modd cyrraedd llwybrau cerdded a beicio o'r safle. Nodwn fod y llygredd aer ar un o'r strydoedd yng Nghrymlyn gyda'r gwaethaf y tu allan i Lundain a bod angen gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gwella iechyd y cyhoedd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i asesu'r achos dros ailagor gorsaf drenau yng Nghrymlyn ac i ystyried  ei hychwanegu at y rhestr flaenoriaethau nesaf o gynigion ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

208 llofnod

Dangos ar fap

5,000