Deiseb a gwblhawyd Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG
Creodd A119 o'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 bwerau i ddelio â phobl sy'n achosi niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG. Ni chafodd hyn ei ddeddfu yng Nghymru, ac nid oes unrhyw ddarpariaethau i ddelio â phobl sy'n creu problemau ar gyfer y GIG yn y modd hwn.
Mae yna nifer o unigolion sy'n achosi problemau tra ar safleoedd y GIG, ac mae'r heddlu yn derbyn llawer o alwadau i ddelio ag ymddygiad o'r fath, ond nid oes unrhyw ffordd o ymdrin â'r mater hwn yn effeithiol gan nad oes trosedd benodol y gall yr heddlu ei defnyddio i atal pobl, heb fod ganddynt esgus rhesymol, sydd naill ai'n achosi aflonyddwch neu niwsans, yn gwrthod gadael yr adeilad pan ofynnir iddynt, neu nad ydynt ar y safle at ddiben cael cyngor, triniaeth neu ofal meddygol.
Rhagor o fanylion
Mae'r gost i wasanaethau iechyd a'r heddlu wrth ddelio â phobl sy'n achosi niwsans ar safleoedd y GIG yn sylweddol. Mae nifer o'r unigolion hyn yn ymddangos dro ar ôl tro, ac nid oes unrhyw bwerau i ddelio â hyn. Mae eu presenoldeb hefyd yn achosi gofid i eraill sy'n mynd at y GIG am resymau dilys. Mae A119 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 wedi cael ei defnyddio'n llwyddiannus gan yr heddlu ac iechyd yn Lloegr i fynd i'r afael â'r mater ers i'r adran benodol ddod i rym yn 2009, ac eto nid oes unrhyw bŵer i wneud hynny yng Nghymru, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y byddai pwerau tebyg i fynd i'r afael â'r mater hwn yn cael eu datblygu yng Nghymru, nid yw hyn wedi digwydd.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon