Deiseb a gwblhawyd Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint

​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthod y cynlluniau arfaethedig o adeiladu Cylch Haearn y tu allan i Gastell y Fflint gan ein bod yn ymwybodol iawn o arwyddocâd hanesyddol Edward I a'i Gylch Haearn, a ddefnyddiwyd i ddarostwng a llethu ein pobl.

Rydym o'r farn bod hyn yn arbennig o amharchus i bobl Cymru a'n hynafiaid sydd wedi brwydro yn erbyn gorthrymder, darostyngiad ac anghyfiawnder am gannoedd o flynyddoedd.

Gofynnwn ichi ailfeddwl y penderfyniad i adeiladu'r heneb hon a defnyddio'r arian ar gyfer rhywbeth arall.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

11,091 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Gohebodd y Pwyllgor â Llywodraeth Cymru ynghylch cerflun ‘cylch haearn’ arfaethedig Castell y Fflint ac, yn sgil cadarnhad bod y prosiect wedi’i ganslo, cytunodd i beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd.

Mae’r ohebiaeth lawn a drafododd y Pwyllgor i’w gweld yma: https://busnes.senedd.cymru/ieIssueDetails.aspx?IId=19786&Opt=3