Deiseb a gwblhawyd Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Galwn ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a choffáu tri chan mlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn eleni (1717-2017).

Credwn fod Williams Pantycelyn wedi gosod y seiliau ar gyfer y Gymru Fodern trwy ei holl emynau (dros 900), ei weithiau llenyddol amrywiol (90), a'i genhadu diflino dros yr efengyl trwy Gymru ben baladr am 40 mlynedd.

Arweiniodd Diwygiadau Methodistaid y 18fed ganrif, y bu Williams yn rhan mor allweddol ohonynt, at sefydlu'r corff cenedlaethol cyntaf yn hanes Cymru ers 400 mlynedd, sef Methodistiaid Calfinaidd Cymru (1811).

Roedd hwnnw yn ei dro yn gyfrwng i sbarduno cyfres o ddiwygiadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pellach fu'n gwbl ganolog wrth greu'r Gymru Fodern.

Mae Pantycelyn felly yn fwy na dim ond un o ffigurau mawr y traddodiad ffydd yng Nghymru. Mae'n un o ffigurau mawr ein stori genedlaethol fel Cymry.

Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei gyfraniad anferthol i'n cenedl a galwn ar y Llywodraeth i drefnu dathliad priodol wedi i'r aelodau ddychwelyd i Gaerdydd ym mis Medi.

Rhagor o fanylion

Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi trefnu dathliadau cyffelyb i nodi cyfraniadau dau o Gymry amlwg eraill yn ddiweddar. Y llynedd, dathlwyd cyfraniad y nofelydd plant Roald Dahl, a'r flwyddyn gynt, dathlwyd cyfraniad y bardd Dylan Thomas. Gwariwyd symiau helaeth o arian trethdalwyr Cymru ar y digwyddiadau hyn.

Gyda chynsail fel hon wedi ei gosod ddwywaith yn ddiweddar, credwn y byddai'n anesgusodol i'n llywodraeth genedlaethol wrthod cydnabod cyfraniad Williams Pantycelyn yn yr un modd.

Gyda phob dyledus barch i Dylan Thomas a Roald Dahl, a'u cyfraniadau unigol yn eu meysydd priodol - does dim modd cymharu eu cyfraniadau hwy i fywyd Cymru gyfan gyda chyfraniad y Pêr Ganiedydd, William Williams.

Bu ymateb cyhoeddus ffyrnig yn ddiweddar i ffiasgo " Y Cylch Haearn" a'r syniad hwn o wario £400,000 i ddathlu goresgyniad Cymru gan Edward I gyda darn o gelf yng Nghastell y Fflint. Y gŵyn a gafodd ei mynegi dro ar ôl tro gan aelodau o'r cyhoedd oedd, sut ar wyneb y ddaear gallai Llywodraeth Cymru fod mor anwybodus ac ansensitif am hanes Cymru ei hun?

Byddai dathlu a choffáu bywyd a gwaith Williams Pantycelyn mewn modd priodol yn dangos fod gan Lywodraeth Cymru ymdeimlad tuag at ein hanes cenedlaethol.

Un syniad y carem ichi ei ystyried ydy trosglwyddo'r arian a ddynodwyd ar gyfer y Cylch Haearn a chodi darn o gelf aruchel yn Llanymddyfri i gofio am Y Pêr Ganiedydd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

547 llofnod

Dangos ar fap

5,000