Deiseb a gwblhawyd Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi!
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i naill ai rhoi sticeri bin du newydd (gweler yr enghraifft sydd wedi’u chynnwys*) neu finiau olwyn printiedig sy’n annog aelwydydd ledled Cymru i ystyried cynnwys y bin cyn ei adael ar ymyl y ffordd i’w gasglu.
Teimlwn, drwy ddisgrifio’r bin yn benodol fel bin ‘tirlenwi’, y bydd hyn yn fodd o atgyfnerthu’r ystyriaeth a roddir i’r eitemau sydd ynddo. Rydym wedi cynnwys ychydig o wybodaeth ffeithiol am faint o amser y bydd rhai eitemau bob dydd yn aros mewn safleoedd tirlenwi os nad ydynt yn cael eu hailgylchu. Credwn fod hyn yn bwerus iawn, ac y gall wella ymrwymiad Cymru i ailgylchu, ac felly y byddwn yn cyrraedd ein targedau ar gyfer y dyfodol.
Yn y pen draw, rydym am annog pobl i ailgylchu rhagor, yn ogystal â helpu i leihau faint o nwyddau ailgylchadwy sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.
*Dim ond fersiwn Saesneg o’r ddelwedd sydd ar gael oherwydd y cafodd ei chyflwyno fel rhan o’r ddeiseb.
Rhagor o fanylion
Fy enw i yw Claire Perrin ac rwy’n athrawes yn y Celtic English Academy. Ar ddechrau’r tymor hwn, dechreuais brosiect dosbarth ar ailgylchu, ac anogais fy neg o ddisgyblion i nodi’r opsiynau posibl sydd gan breswylwyr yn y brifddinas. Darganfuwyd hefyd bod Cymru’n rhagori ar ei hymrwymiad i leihau gwastraff tirlenwi erbyn 2025 a’i bod yn arwain y ffordd i weddill y DU o ran gwella mynediad at ganolfannau ailgylchu ac o ran casgliadau o gartrefi yn gyffredinol.
Fodd bynnag, dechreuodd fy nisgyblion sylwi bod llawer o bobl nad ydynt yn ailgylchu’n gywir. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau ffotograffig o fagiau ailgylchu gwyrdd mewn biniau olwyn du, bwyd mewn bagiau gwyrdd a du ar ymyl ffyrdd ac eitemau y gellir eu hailgylchu mewn bagiau du. Cynhaliwyd trafodaethau yn y dosbarth ar y rhesymau posibl pam bod hyn yn digwydd. Cynhaliwyd arolwg hefyd a oedd yn gofyn i bobl adnabod y nwyddau ailgylchadwy yn y rhestr ganlynol:
Cynhwysyddion bwyd anifeiliaid anwes; eitemau hylendid personol; dalenni alwminiwm; cynhwysyddion bwyd cyflym; cylchgronau; pecynnau creision; bocsys wyau; bagiau plastig; dillad
Canfuwyd bod llawer o bobl nad oeddent yn gwybod pa eitemau y mae modd eu hailgylchu. Darganfuwyd hefyd nad oedd pobl yn ystyried faint o amser y mae’n ei gymryd i eitemau safleoedd tirlenwi bydru. Pan wnaethom roi gwybod hyn iddynt, cawsant gryn sioc ac roeddent yn awyddus i wneud rhagor i ailgylchu. Roedd hyn yn sbardun i ni ddod o hyd i ateb posibl i faint o eitemau a roddir, yn anghywir, mewn bagiau du / gwyrdd, a byddai modd cyflwyno’r cam hwn ar draws Cymru, a thrwy hynny annog pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros reoli eu gwastraff ac yn hynny o beth, atal eitemau y gellir eu hailgylchu rhag cael eu hanfon yn syth i safleoedd tirlenwi.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon