Deiseb a gwblhawyd Cymhwyso’r Ddeddfwriaeth Systemau Llethu Tân Awtomatig o fewn y Rheoliadau Adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru.

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu a diwygio gweithrediad presennol y Rheoliadau Systemau Chwistrellu Tân o fewn y Rheoliadau Adeiladu cyfredol a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2016 (Cymru).

Dylai’r adolygiad i ddiwygio ystyried yn benodol sut y mae’r rheoliad wedi cael ei integreiddio i’r Rheoliadau Adeiladu cyfredol mewn perthynas â phrosiectau sy’n dod o fewn y categori "Newid Defnydd Hanfodol” (Rheoliad 5) a’r gofyniad i ôl-ffitio systemau llethu tân awtomatig. Dylai’r adolygiad yn bennaf ystyried yr hyn a gyflawnir mewn gwirionedd pan fydd dau eiddo yn cael eu cyfuno i un eiddo, o gofio: - 

1) Pan fydd dau annedd yn dod yn un, dylai’r broses adeiladu ei hun gael ei hystyried yn ddim gwahanol i’r hyn a fyddai’n cael ei ystyried fel Estyniad i annedd. O dan y Rheoliadau Adeiladu presennol nid oes angen i system llethu tân awtomatig gael ei gosod mewn Estyniadau waeth beth fo’u maint.

2) Y gofyniad yw i osod system llethu tân awtomatig yn yr adeilad yn ei gyfanrwydd ac nid dim ond yn y rhan sydd wedi’i ddatblygu.

3) Nid yw’r Rheoliad yn ystyried unrhyw gamau lleihau tân sylweddol sydd eisoes yn digwydd o ganlyniad i’r prosiect adeiladu, fel lleihau nifer y ceginau o fewn eiddo (mae 70% - 80% o’r holl danau domestig yn dechrau mewn ceginau yn ôl Firesafe.org.uk).

4) Mae’r costau cyfredol ar gyfer systemau llethu tân awtomatig wedi’u "hôl-osod" yn golygu nad yw’r gofyniad yn gost effeithiol, sef ffaith a ategir gan bob astudiaeth a gomisiynwyd ac astudiaeth annibynnol a gynhaliwyd hyd yma. (Mae costau a dyfynbrisiau a gasglwyd yn amrywio o £5,000 i dros £10,000, yn dibynnu ar argaeledd llif o ddŵr, nifer y penaethiaid sy’n gweithredu, a gofynion o ran tanc a seilwaith).

5) Mae’r Ddeddfwriaeth wedi cael ei rhoi ar waith heb seilwaith digonol. O fewn Cymru gyfan dim ond 7 o gwmnïau BAFSA cofrestredig sy’n bodoli. Mae hyn yn debygol iawn o arwain at brisio heb fod yn gystadleuol.

Rhagor o fanylion

​Dylai’r adolygiad hefyd edrych ar y goblygiadau ehangach o ran sut y mae’r ddeddfwriaeth hon wedi cael ei rhoi ar waith, nawr ei bod wedi bod ar waith ers peth amser. Dylai ystyriaethau gynnwys:

1) Cynnal y systemau - Nid yw’r ddeddfwriaeth yn cynnwys dim ynghylch unrhyw ofynion cynnal a chadw parhaus ar ôl i system gael ei gosod. Dull Cynulliad Cymru yn hyn o beth yw darparu "Taflen" i’r cyhoedd sydd i fod i ddarparu gwybodaeth i berchennog cartref ynglŷn â gofynion cynnal a chadw’r system; fodd bynnag, mae hyn yn llai na’r hyn a fyddai’n cael ei gyflawni pe bai’n rhan o’r ddeddfwriaeth i sicrhau y caiff y system ei chynnal a’i chadw yn barhaus. Fodd bynnag, yr effaith yn sgil hyn yw rhoi rhagor o faich ar berchnogion tai o ran costau bod yn berchen ar gartref a’i redeg, gyda chostau cynnal a chadw parhaus a amcangyfrifir dros £2000 y flwyddyn.

2) Risg Legionella (oherwydd diffyg cynnal a chadw) - Credir yn eang nad yw systemau chwistrellu yn gyffredinol yn ffynhonnell Legionella (FPA RC63), fodd bynnag, gan mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar Systemau Chwistrellu Domestig fel gofyniad ar gyfer pob adeilad newydd a chartref a gaiff ei drawsnewid, credwn fod angen mwy o waith ymchwil, yn enwedig gan fod y rheoliadau yn hepgor cynnwys cynnal a chadw’r system. Rydym ni o’r farn, wrth i systemau heneiddio, ac na chânt eu cynnal oherwydd costau, y bydd y risg o Legionella yn rhoi’r cyhoedd mewn mwy o berygl o haint yn gyffredinol.

3) Costau - Oherwydd lled elw tynn ar gyfer Adeiladwyr Tai a Datblygwyr, mae rhai bellach wedi rhoi’r gorau i adeiladu tai mewn rhai ardaloedd yng Nghymru (cwmni Persimmon a chwmni Redrow) neu byddant yn rhoi’r gorau iddi’n fuan, o ganlyniad uniongyrchol i’r Ddeddfwriaeth hon.

4)  Dadansoddiad Budd Cost - Yn ystod yr ymchwiliad cychwynnol amcangyfrifwyd y byddai’r system yn costio £1500 - £2500 i bob cartref. Mewn gwirionedd mae’r gost rhwng £5,000 a £10,000 am bob gosodiad.  Yn aml mae angen offer ychwanegol oherwydd na all Dŵr Cymru warantu isafswm llif a phwysau’r dŵr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

62 llofnod

Dangos ar fap

5,000