Deiseb a gwblhawyd Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
• comisiynu astudiaeth ymchwil i ganfod cyflwr gwelyau'r cyllyll môr a'u hyfywedd fel adnodd naturiol hirdymor, a rhoi moratoriwm ar waith ar gyfer pysgota cyllyll môr hyd nes y gall yr ymchwil adrodd ar ei ganfyddiadau;
• cadarnhau tymor 'caeëdig' ar gyfer cynaeafu cyllyll môr sy'n cyd-fynd â'r tymor silio h.y. mis Mai i fis Medi;
• llunio rheoliadau yn ogystal â'r maint glanio lleiaf o 10cm i gynnwys cwotâu penodol y mae unigolion yn cael eu casglu; a
• chyflwyno deddfwriaeth a rheoliadau i amddiffyn y cyllyll môr ar draeth Llanfairfechan.
"Mae'r cynaeafu ar raddfa fawr o gyllyll môr ar draeth Llanfairfechan wedi bod yn destun pryder i lawer o drigolion a chadwraethwyr ers nifer o flynyddoedd." (Cyf: llythyr at Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet gan Janet Finch Saunders AC 28 Gorffennaf 2017.)
Ar hyn o bryd yr unig reolaeth reoliadol ar gyllyll môr yw bod yn rhaid iddynt fod â maint glanio lleiaf cyfreithiol o 10cm, ac mae gwiriadau sy'n ymwneud â rheoli'r hyn sy'n dod yn rhan o'r gadwyn fwyd. Mae llawer o drigolion yn pryderu am y diffyg ymddangosiadol o weithdrefnau a/neu reoliadau sy'n llywodraethu'r broses o gasglu cyllyll môr yn enwedig o ran dynodi tymor 'caeëdig' yn ystod silio, y cwotâu a ganiateir, a'r angen am gynnal gwaith ymchwil ar y cyllyll môr i ganfod yr effaith ar yr ecosystem a'r amgylchedd lleol.
Ers 2013 nodwyd gan nifer o ffynonellau fod cyllyll môr yn cael eu cynaeafu mewn niferoedd mawr o draeth Llanfairfechan. Mae tystiolaeth i gefnogi'r honiad hwn wedi cael ei dogfennu ar sawl achlysur yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae cais diweddar ar Hysbysfwrdd Llanfairfechan ar gyfer unrhyw luniau neu fideos o'r rheini sy'n casglu cyllyll môr yn dangos yn glir bod nifer fawr o bobl yn ymwneud â'r gweithgarwch hwn. Mae'r broses o gasglu'r cyllyll môr fel arfer yn digwydd ar ôl llanw uchel.
Rhagor o fanylion
Dyma rywfaint o gefndir hanesyddol am y mater hwn. Yn 2013 amlygwyd y cynaeafu gan bapur newydd Weekly News gan Tom Davidson pan nodwyd fod 'criw o dros 100 o bobl yn cynaeafu llawer iawn o gyllyll môr...' Roedd pryderon hefyd fod gweithwyr anghyfreithlon yn cael eu hecsbloetio a bod y cyllyll môr yn cael eu pysgota at ddibenion masnachol. Ar y pryd, dywedodd un o'r trigolion ei fod 'wedi gweld golygfeydd tebyg yn ymwneud â nifer cynyddol o gasglwyr yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae'r trigolion yn flin oherwydd y nifer fawr o gynaeafwyr gydag ofnau y gallai'r cynefin lleol gael ei ddifrodi yn anadferadwy, gyda channoedd o gyllyll môr yn cael eu casglu oddi ar y traeth yn rheolaidd.'
Er bod yr ofnau o ran bod y casglwyr yn cael eu defnyddio fel rhan o gaethwasiaeth fodern a'r pysgod cregyn yn dod yn rhan o'r gadwyn fwyd wedi cael eu tawelu gan ymdrechion parhaus yr heddlu a'r Asiantaeth Safonau Bwyd, mae canlyniadau amgylcheddol y broses gyson a systematig o gasglu cyllyll môr yn parhau i fod yn broblem fawr, a all effeithio ar fywyd adar môr ac eraill yn yr ardal, ynghyd ag achosi newidiadau posibl yn y dwysedd o dywod ar y traeth. Mae rhai pryderon ynglŷn â'r tywod yn ansefydlog mewn mannau a gallai pobl sy'n anghyfarwydd â'r traeth yn hawdd fynd i drafferthion e.e. mae rhai o'r casglwyr yn cynaeafu'r cyllyll môr gryn bellter i ffwrdd oddi wrth ddiogelwch y tir.
Mae wedi bod yn eithaf diraddiol a rhwystredig i ddinasyddion cyffredin wylio'r ysbeilio o adnodd amgylcheddol ac yn cwestiynu pam mae sefydliadau sydd â chylch gwaith i warchod yr amgylchedd yn ymddangos i gael eu llyffetheirio oherwydd y diffyg gweithdrefnau/deddfau priodol. Mae hyn yn syndod o gofio bod traeth Llanfairfechan wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig. 2013. Mae'n rhaid bod rheoliadau o fewn y cyrff hyn o wybodaeth i fanteisio arnynt fel ffynhonnell i ddiogelu'r anghydbwysedd hwn mewn ecosystem o'r fath?
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon